Clychau'r Gog - Blwyddyn 1
Mrs Beechey yw ein hathrawes eleni yn nosbarth Clychau’r Gog ac mae Miss Turner a Miss Burne hefyd yn ein helpu. Fe fydd Mrs Weighell yn arwain ein sesiynau CPA unwaith bob pythefnos. Mae 29 o ddysgwyr hapus a chwilfrydig yn y dosbarth sydd yn hoff iawn o astudio themâu newydd.
Rydym wrth ein boddau yn darllen, ymarfer ein sgiliau ysgrifennu, cwblhau gwaith rhifedd, darganfod sgiliau digidol newydd yn ogystal â chynnal ymholiadau gwyddonol cyffrous yn y dosbarth. Ein thema ar gyfer Tymor y Gwanwyn yw 'Arwyr yr Oesoedd'.
Pwysig:
- Bydd ein gwersi ymarfer corff yn digwydd ar ddyddiau Mercher a Iau. Fe fydd angen bag yn cynnwys cit ymarfer corff, a phopeth wedi labelu. Crys lliw'r llys, siorts neu leggings du a 'trainers'. Fe fydd y bag yn aros yr ysgol am hanner tymor.
- Byddwn yn darllen yn unigol yn wythnosol ac yn derbyn llyfr newydd os byddwn yn hydrus ac yn barod. Fe fydd nodiadau am hyn yn y Cofnod Ddarllen er mwyn cysylltu darllen y cartref gyda darllen yn yr ysgol.
- Darparir llyfrau darllen mewn bag darllen swyddogol yr ysgol YN UNIG. Gellir prynu bag darllen o siop Ruckleys. Disgwylir i’r bag glas ddod i mewn i'r ysgol yn ddyddiol.
- Bydd tasgau sillafu a rhifedd yn cael eu gosod ar Google Classroom ar ddyddiau Gwener.
- Bydd tudalen Dewis Difyr yn cael ei osod ar Google Classroom ar ddechrau pob hanner tymor er mwyn i ni allu parhau â’n dysgu adref. Fe fydd y Dewis Difyr cyntaf yn cael ei ddarparu yn dilyn Hanner Tymor yr Hydref (10ed o Dachwedd).
Diolch yn fawr iawn,
Mrs B Beechey
Cofiwch ein dilyn ar Drydar - @MrsBBeechey