Onnen - Blwyddyn 3
Croeso i ddosbarth Onnen!
Miss Taylor yw ein hathrawes ni eleni. Mae Miss Weston yn ein helpu ni yn y dosbarth hefyd ar fore ddd Llun, Mercher a Gwener, ac mi fydd Mrs Atkins gyda ni diwrnod yr wythnos. Mae yna 26 o ddisgyblion annwyl, bywiog a gweithgar yn ein dosbarth.
Gan ein bod ym Mlwyddyn 3, bydd pwnc newydd ar yr amserlen – Saesneg! Rydym yn edrych ymlaen at drafod, darllen ac ysgrifennu yn yr iaith eleni. Rydym hefyd yn mwynhau amryw o wersi eraill fel Cymraeg, Mathemateg, Gwyddoniaeth a llawer mwy!
Ein thema y tymor hwn yw 'Byw yn iach'.
Pwysig!
- Mae ein gwersi Addysg Gorfforol bob Dydd Llun a Dydd Gwener.
- Bydd ein llyfrau darllen a geiriau sillafu yn cael eu hanfon adref ar ddydd Gwener a rhaid dychwelyd y llyfrau darllen i’r ysgol erbyn y dydd Mercher canlynol.
- Bydd gwaith cartef/homework takeaway yn cael ei osod ar ddydd Iau, a bydd angen cwblhau'r gwaith erbyn y dyddiad fydd wedi nodi ar y daflen.
- Bydd ein ymarferion sillafu / tablau yn digwydd bob dydd Llun.
- Mae eisiau potel ddŵr gan bawb yn y dosbarth er mwyn sicrhau ein bod yn yfed digon i gadw’n iach. Does dim llaeth a ffrwyth ar gael i’r Adran Iau, ond mae croeso i chi ddod â darn o ffrwyth eich hunan i fwyta amser egwyl y bore.
Diolch,
Miss Taylor
Dilynwch ni ar ein tudalen X (Trydar)!
@Misstaylor24117