Presenoldeb
Mae presenoldeb cyson pob disgybl yn yr ysgol yn holl bwysig. Gan fod absenoldeb yn amharu ar gynnydd disgybl, mae’r ysgol yn awyddus i sicrhau cyfradd presenoldeb uchel.
Er lles a diogelwch eich plentyn, gofynnir i rieni gysylltu â’r ysgol cyn 10 o’r gloch y bore os ydy disgybl yn absennol o’r ysgol.
Rydym yn categoreiddio absenoldeb disgyblion fel a ganlyn:
Absenoldeb gyda chaniatâd
Mae’r ysgol yn caniatáu i ddisgybl fod yn absennol ar gyfer:
- Apwyntiad meddygol/deintyddol
- Profedigaethau teuluol
- Cyfweliadau
- Dyddiau gŵyl crefyddol
Absenoldeb heb ganiatâd
Nid yw’r ysgol, fel arfer, yn barod i ganiatáu absenoldeb am y rhesymau canlynol:
- Gwarchod brodyr/chwiorydd
- Gofalu am y tŷ
- Siopa
- Ymweliadau preifat yn ystod oriau ysgol
- Cyrraedd yn hwyr heb reswm dilys
Slip Absenoldeb
Ar ddychweliad eich plentyn i’r ysgol, disgwylir i chi lofnodi’r slip absenoldeb yng nghefn y dyddiadur a’i roi i’r tiwtor personol. Os yw disgybl yn gadael safle’r ysgol gyda’i rhieni disgwylir iddynt gofrestru i mewn ac allan yn y dderbynfa. Ni chaniateir i ddisgybl adael ffiniau’r ysgol os nad ydynt o dan oruchwyliaeth oedolyn cyfrifol.
Caniatad am Wyliau
Rydym yn gofyn i rieni drefnu eu gwyliau teuluol i gyd-fynd â gwyliau ysgol. Rhaid trafod gyda’r Pennaeth Blwyddyn priodol os am drefnu gwyliau yn ystod tymor yr ysgol. Rydym yn mawr obeithio y gallwch gadw dyddiadau gwyliau i’r lleiafswm posib, a’ch bod hefyd yn ystyried effaith colli ysgol ar addysg a chynnydd eich plentyn.