Y Gyfundrefn Wobrwyo
Y Gyfundrefn Wobrwyo
Y Gyfundrefn Clod A Diffyg Ymdrech
Fe weithredwn y system yma er mwyn gwobrwyo a hyrwyddo disgyblion sydd yn cyrraedd y disgwyliadau uchel.
Manteision y system yw:
- bydd disgybl yn derbyn gwobr ar unwaith oddi wrth athro sydd yn cydnabod gwaith da.
- gall athro wobrwyo disgybl o flaen ei gydddisgyblion
- gall athro pwnc atgyfnerthu’r safonau sydd yn dderbyniol yn y dosbarth
- gosodir y sticeri yn nyddiaduron Gwaith Cartref disgyblion er mwyn eu harddangos i eraill (Rhieni, Tiwtor Dosbarth, Tiwtor Blwyddyn)
- mae’r system yn hyrwyddo adborth cyflym ar waith dosbarth a gwaith cartref y disgybl a ddylai felly ei ysgogi i gynnal a chodi safonau ei waith.
Gwobrwyo Pwyntiau Clod
- gwaith sydd yn unol â photensial llawn disgybl
- canlyniad prawf neu asesiad lle mae’n amlwg bod y disgybl wedi ymdrechu i adolygu’r gwaith
- cwblhau gwaith cartref yn brydlon, gwaith cywir a chywrain y tu hwnt i’r safon a ddisgwylir
- gwaith ymarferol sydd o safon uchel neu dystiolaeth o baratoi a chynllunio
- cyflwyno gwaith cwrs yn brydlon ac yn unol â photensial llawn disgybl
- codi a chynnal safonau mewn pwnc Disgwylir i’r Adrannau lunio ac arddangos y meini prawf yn yr ystafell ddosbarth.
Rhaid cofio mai’r nôd yw i wobrwyo ymdrech yn ogystal â chyrhaeddiad. Fe fydd pob Adran yn nodi’r meini prawf sydd yn berthnasol iddynt hwy.
Ni ddylid gwobrwyo pwyntiau clod am y canlynol
- gwaith cartref sydd yn brydlon ond heb ei gwblhau
- gwaith dosbarth sydd wedi ei gwblhau ond sydd yn dangos ôl diffyg ymdrech
- gwaith sydd o safon ond heb ei gyflwyno’n brydlon
Byddwn hefyd yn gwobrwyo disgyblion drwy ddefnyddio system tystysgrifau isod:
Cymreictod: Am ddefnydd hyderus a chyson o’r Iaith ac hyrwyddo’r Iaith lle bo’n bosib.
Parch: Am ddangos parch at eraill, eu hunain ac at waith yn gyffredinol.
Uchelgais: Am roi o’u gorau a cheisio cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol amrywiol.
Diffyg Ymdrech
Bydd yr athro yn medru tynnu sylw rhieni at ddiffyg ymdrech neu ymddygiad anfoddhaol drwy roi nodyn yn y dyddiadur neu dynnu pwyntiau clod oddi ar y system.
Mae cydweithrediad y rhieni yn hanfodol yma.