Cytundeb Cartref/Ysgol
“DYRO DY LAW I MI AC FE AWN I BEN Y MYNYDD”
Rhieni yw athrawon cyntaf a pharhaol plentyn. Rydych yn chwarae rôl allweddol yn y gwaith o gynorthwyo ein disgyblion – eich plant – i ddysgu. Byddent yn cyflawni mwy pan fyddwn ni – yr ysgol a chithau – yn gweithio gyda’n gilydd. Teimlwn y bydd yn haws llwyddo drwy gytuno ar yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl o’n gilydd. Mae’r cytundeb cartref/ysgol yma yn darparu fframwaith ar gyfer datblygu y bartneriaeth yma.
Ein Cenhadaeth i’r Disgybl
Nod yr ysgol yw i gynnig Addysg Gymraeg gyflawn i chi a thrwy hynny gwneud yn sïwr eich bod yn cyrraedd y safonau uchaf posibl
yn ôl eich gallu a’ch talentau. Fe wnawn ni hyn mewn awyrgylch sy’n eich cynnal ac sydd yn eich parchu chi fel unigolyn.
Ein Cenhadaeth i’r Rhiant
Tra’n gweithio i sicrhau ein cenhadaeth i’r disgybl fe ymrwymwn i’ch cynnwys chi fel partner yn ein hymdrechion ac i gyfathrebu â chi yn glir ac yn onest yn ôl yr angen. Drwy gydweithio ac ymddiried yn ein gilydd rydym am sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd i ben mynydd ei allu a’i dalentau.
Gwnawn hynny drwy gynnig cyfle, cynhaliaeth ac arweiniad o fewn cymdeithas bositif, eangfrydig, diogel a gwar.
Gweledigaeth ar gyfer ein disgyblion
Rydym am ddisgyblion rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg sydd yn falch o draddodiad ac etifeddiaeth eu hardal a’u gwlad. Ceisiwn ddinasyddion cytbwys a chyfrifol sy’n parchu hawliau unigolion eraill ac sydd yn gyfforddus a’u hunain. Bydd ganddynt barch at eu meddyliau, eu hysbryd, a’u cyrff ac fe fydd ganddynt orwelion eang a chwilfrydedd am wybodaeth newydd. Meddant ar y medrau angenrheidiol i fanteisio ar her a sialens y dyfodol yn y byd gwaith ac yn y gymdeithas a byddent am barhau i dyfu a datblygu fel dysgwyr gydol oes a dinasyddion y byd.