Polisi Bwyta'n Iach
Mae Gwasanaethau Arlwyo’r Fro yn darparu pryd ysgol iach, maethlon amser cinio, sy’n cydymffurfio â'r safonau bwyd a maeth a bennir gan Reoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Safonau a Gofynion Maethol) (Cymru) 2013 Llywodraeth Cymru.
Mae ymchwil yn dangos bod cynnydd yng ngallu plant i ganolbwyntio a chofio os ydynt yn bwyta cinio iach, cytbwys. Rydyn ni wedi addasu ein ryseitiau i ostwng lefelau siwgr, halen a braster ac i8 gynyddu lefelau protein, carbohydradau, ffibr, sinc, asid ffolig, calsiwm a Fitaminau A ac C.
Mae holl staff y gegin yn cael eu hyfforddi yn unol â'r gofynion deddfwriaethol sy’n gysylltiedig â gweithdrefnau arlwyo, i ardystio bod bwyd yn cael ei baratoi mewn amgylchedd diogel.