Addysg Gorfforol
Adran:
Mr R Chidley - Pennaeth Adran
Mr R Beynon
Miss B Price
Miss M Williams
I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk
Trydar: @AddGorffYGBM
Gweithgareddau Ychwanegol:
- Clwb Gymnasteg
- Pêl-osgoi
- Pêldroed
- Hoci
- Pêlrwyd
- Pêl fasged
- Rygbi
- Clwb Ffitrwydd Merched
- 5-yr-ochr
- Tenis Bwrdd
- Pêl-mainc
- Athletau
- Traws Gwlad
- Rygbi 7-yr-ochr
- Tenis
- Criced
Am fwy o wybodaeth am y clybiau sydd ar gael ewch i'r ddolen 'all-gwricwlaidd' sydd ar ben y dudalen yma!
“Mae hi’n ddiddorol cael dysgu am y gwahanol elfennau sydd o fewn Addysg Gorfforol. Mae wedi rhoi cyfle i mi ddysgu sut mae’r corff a’r ymennydd yn cydweithio sydd yn gwneud y cwrs yn gyffrous.”
Ellie Peterson (Blwyddyn 13)
CA3 (Blwyddyn 7-9)
Bl |
Tymor |
|
|
7 |
1 |
Traws gwlad Gym Rygbi Pel-droed |
Traws gwlad Hoci Pel-rwyd |
|
2 |
Pel-droed Gym Rygbi Pel-fasged Adeiladu tim Profion ffitrwydd |
Hoci Pel-rwyd Pel-droed Ffitrwydd Dawns Gym |
|
3 |
Profion ffitrwydd Tenis byr Hoci Athletau Criced |
Gym Dawns Athletau Rownderi |
8 |
1 |
Traws gwlad Pel-droed Pel-fasged Profion ffitrwydd |
Traws gwlad Gym Hoci Pel-rwyd |
|
2 |
Profion ffitrwydd Gym Hoci Tasgau ffitrwydd |
Pel-droed Dawns Ffitrwydd Tasgau ffitrwydd |
|
3 |
Athletau Criced |
Athletau Tenis |
9 |
1 |
Traws gwlad Pel-droed Rygbi Pel-fasged hoci |
Traws gwlad Hoci Pel-rwyd Ymarfer ffitrwydd Pel-droed |
|
2 |
Ffitrwydd Gym |
Dawns Badminton |
|
|
Athletau Criced |
Athletau Rownderi |
CA4 (Blwyddyn 10-11)
CA4
Amcanion y Cwrs
• Annog arfer ac astudio Addysg Gorfforol mewn modd pwrpasol a phleserus;
• Rhoi cyfle i’r disgyblion gymryd rhan mewn cwrs eang a chytbwys mewn addysg gorfforol;
• Caniatáu i’r disgyblion ddewis gweithgareddau ymarferol sy’n ystyried cyrhaeddiad blaenorol, diddordeb personol a lefelau unigol o gymhelliant;
• Galluogi’r disgyblion i gaffael hunan-dyb, parch tuag atynt hwy eu hunain a thuag at eraill ac i ddatblygu ymrwymiad i ffordd fywiog o fyw;
• Sicrhau bod elfennau theori y cwrs yn codi’n naturiol o’r gweithgareddau ymarferol.
Nodau’r Cwrs
• Datblygu a chymhwyso eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth o addysg gorfforol drwy weithgareddau ymarferol dewisedig;
• Datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r gwahanol ffactorau sy’n effeithio ar gymryd rhan a pherfformiad, ac arddangos y berthynas rhyngddynt;
• Deall swyddogaeth rheolau a chonfensiynau mewn gweithgareddau dewisiedig;
• Hybu eu dealltwriaeth o’r buddion iechyd a’r risgiau sy’n gysylltiedig â chymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol;
• Datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddadansoddi a gwella perfformiad;
• Cynorthwyo eu datblygiad personol a chymdeithasol drwy gymryd swyddogaethau gwahanol mewn gweithgareddau dewisedig wrth weithio gydag eraill.
Uned 1: Cyflwyniad i Addysg Gorfforol Papur Ysgrifenedig: 2 awr 100 o farciau (50% o’r cymhwyster) |
Asesir dysgwyr drwy amrywiaeth o gwestiynau atebion byr a chwestiynau ysgrifennu estynedig. Bydd y cwestiynau’n seiliedig ar ysgogiadau clyweledol a ffynonellau eraill. |
Uned 2: Y Cyfranogwr Gweithredol mewn Addysg Gorfforol Asesiad di-arholiad 100 o farciau (50% o’r cymhwyster) |
Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu fel perfformiwr mewn tri gweithgaredd gwahanol yn o leiaf un gamp unigol, un gamp tîm ac un arall. Bydd un o’r gweithgareddau hyn yn brif weithgaredd a bydd rhaglen ffitrwydd bersonol yn gysylltiedig â’r gweithgaredd hwn. |
CA5 (Blwyddyn 12-13)
Anghenion Mynediad:
Dylech lwyddo i ennill gradd C neu’n uwch mewn Addysg Gorfforol ar lefel TGAU.
Beth yw Addysg Gorfforol?
Mae’r fanyleb hon wedi’i llunio i ganiatáu i ddysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o addysg gorfforol mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau. Mae’r fanyleb wedi’i chynllunio i integreiddio theori ac arfer gyda phwyslais ar gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol. Bydd dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth o sut mae’r gwahanol gysyniadau damcaniaethol yn effeithio ar eu perfformiad nhw eu hunain drwy integreiddio theori ac arfer. Bydd dysgwyr hefyd yn cael y cyfle i ddatblygu ymwybyddiaeth o faterion cyfoes sy’n berthnasol i addysg gorfforol a chwaraeon yng Nghymru.
Beth fyddaf yn dysgu o fewn Addysg Gorfforol?
• datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth hanfodol o gysyniadau addysg gorfforol a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn eu defnyddio mewn sefyllfaoedd newydd a newidiol
• datblygu dealltwriaeth o’r cysylltiad rhwng theori ac arbrofi
• bod yn ymwybodol o’r ffyrdd y mae datblygiadau mewn technoleg gwybodaeth ac offer yn cael eu defnyddio ym maes chwaraeon
• gwerthfawrogi cyfraniadau Addysg Gorfforol i’r gymdeithas
• dod â gwybodaeth at ei gilydd am ffyrdd y mae gwahanol feysydd chwaraeon yn cysylltu â’i gilydd
• cynnal a datblygu eich mwynhad o Addysg Gorfforol a’ch diddordeb yn y pwnc
Bydd y gwersi yn cynnwys cyfnodau dysgu a thrafodaeth dosbarth cyfan/rhannol a gwaith ymarferol ynghyd â chyfnodau tiwtorial unigol, cyflwyniadau gan ddisgyblion a gwaith darllen ac astudio unigol. Cewch eich hannog i ddefnyddio amrediad eang o adnoddau gan gynnwys gwerslyfrau’r ysgol, cylchgronnau a meddalwedd perthnasol yn ogystal â’r cyfoeth o wybodaeth sydd i’w gael ar y rhyngrwyd.
Cynnwys y cwrs:
• Uned 1 Dulliau Bywiog o Fyw ac Addysg Gorfforol
• Uned 2 Gwella Perfformiad mewn Addysg Gorfforol
• Uned 3 Perfformiad, Darpariaeth a Chyfranogiad mewn Addysg Gorfforol
• Uned 4 Mireinio Perfformiad mewn Addysg Gorfforol
Gyrfaoedd posib:
Bydd Safon UG/U yn fanteisiol iawn i’r rhai ohonoch sydd â diddordeb mewn unrhyw faes addysg gorfforol e.e. ffisiotherapydd, maethion neu hyfforddiant biomecaneg. Mae’r amrediad o sgiliau byddwch yn datblygu drwy ddilyn y cwrs yma yn rhai fedrwch drosglwyddo i bob math o swyddi ac mae canran uchel o bobl â chymwysterau mewn Addysg Gorfforol yn symud ymlaen i weithio fel rheolydd hamdden, newyddiadurwr chwaraeon, yr heddlu neu’r gwasanaeth tân.
Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs: