Cymdeithaseg
CA4 (Blwyddyn 10-11)
Miss E Evans
I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk
Mae cwrs TGAU CBAC mewn Cymdeithaseg wedi eu lunio i feithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gritigol o fewn y disgybl o’r byd cymdeithasol o’u cwmpas. Mae’r fanyleb yn ffocysu ar y pwysigrwydd o strwythurau cymdeithasol wrth esbonio materion cymdeithasegol; ymhellach mae yn datblygu gallu y dysgwr i feddwl yn gymdeithasegol mewn perthynas â’u profiadau nhw o’r byd o’u cwmpas fel y gallant chwarae rôl cadarnhaol, gweithredol a gwybyddus o fewn cymdeithas.
Mae natur y pwnc yn gofyn am aeddfedrwydd a sensitifrwydd gan y disgybl i sicrhau parchu gwahaniaethau unigolion o fewn y dosbarth ynghyd â chymdeithas yn oll. Ymhellach bydd disgwyl i’d disgyblio ddilyn y newyddion yn wythnosol i sicrhau caffaeliad o newidiadau arwyddocaol yng Nghymru ac ar draws y byd.
Uned 1: Deall Prosesau Cymdeithasol
Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud - 50% o’r cymhwyster
Mae’r uned yma yn delio gyda y pynciau canlynol:
• Cysyniadau allweddol a’r prosesau o drosglwyddo diwylliant
• Teuluoedd
• Addysg
• Dulliau ymchwil cymdeithasegol
Uned 2: Deall Strwythurau Cymdeithasol
Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud - 50% o’r cymhwyster
Mae’r uned yma yn delio gyda y pynciau canlynol:
• Gwahaniaethu a haeniadau cymdeithasol
• Trosedd a gwyredd
• Dulliau ymchwil cymdeithasegol wedi eu cymhwyso
Mae’r ddwy uned yn asesiadau ysgrifenedig gyda chymysgedd o gwestiynau byr, strwythuredig ac ysgrifennu estynedig gofynnol. Mae y cwestiynau ysgrifennu estynedig yn gofyn i ymgeiswyr ddefnyddio gwahanol rannau o wybodaeth, sgiliau ac / neu dealltwrieth ar draws gwahanol rannau cynnwys y manylebau.