Gwallt a Harddwch
VTCT Tystysgrif Lefel 2 mewn Gwallt a Harddwch
CA4 (Blwyddyn 10-11)
Amcan y cwrs hwn yw galluogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau, technegau a gwybodaeth yn ymwneud â gwallt a harddwch. Mae’r holl unedau’n sylfaen ar gyfer astudiaeth bellach yn y sector gwallt a harddwch ac yn ehangach.
Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddatblygu’r wybodaeth sylfaenol a rhai o’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen yn y gweithle, megis sgiliau cleient a chwsmer a sgiliau cyfweliad am swydd.
Caiff y cwrs ei gynnal gan athrawon sydd â phrofiad helaeth iawn yn y diwydiannau, gyda rhai yn berchen ar eu busnesau eu hunain.
Disgwylir i’r myfyrwyr wisgo gwisg unffurf er mwyn creu delwedd broffesiynol.
Lleoliadau’r Cwrs
· Heol Colcot, y Barri.
· Ysgolion croesawu amrywiol, Caerdydd
Hyd y cwrs
· Un diwrnod yr wythnos dros ddwy flynedd .
Cymhwyster yn y Diwedd
Tystysgrif Lefel 2 VTCT mewn Sgiliau Gwallt a Harddwch (VRQ)
Amlinelliad o’r cwrs
Mae’r cwrs yn cynnwys yr unedau canlynol:
· 1 uned orfodol; Creu delwedd yn seiliedig ar thema
· 4 uned ddewisol; dewiswch o gelf ewinedd, trin ewinedd sylfaenol, plethu a chordeddu gwallt, sychu a gorffennu gwallt, gofal croen sylfaenol, colur ffotograffig a llawer rhagor.
Deilliannau’r Cwrs
Mae’r cymhwyster hwn yn gyfwerth â 2 radd A*- C TGAU
Caiff y cymhwyster ei ddyfarnu gan Ymddiriedolaeth Elusennol Hyfforddiant Galwedigaethol (VTCT) a gellir ei ddefnyddio i gael mynediad at gyrsiau llawn amser cysylltiedig ar ôl 16 yn CCAF a thu hwnt.
Llwybrau Cynnydd Posib
Cyrsiau llawn amser yn CCAF;
· Cyrsiau Lefel 1 mewn Gwallt a Harddwch
· Cyrsiau Lefel 2 mewn Gwallt a Harddwch
· Cyrsiau Lefel 1, 2 a 3