Gwyddorau Feddygol
CA5 (Blwyddyn 12-13)
"Rwyf wedi dysgu llawer wrth ddilyn y cwrs gan bod yr athrawes yn dysgu’r gwaith yn fanwl. Teimlaf bod hwn yn opsiwn da i ddisgyblion ffeindiodd TGAU yn anodd, gan bod llai o arholiadau a mwy o bwyslais ar waith cwrs.”
Anghenion Mynediad:
Gwyddoniaeth - C
Cymraeg – C
Saesneg - C
Mathemateg – C
Beth yw Gwyddor Feddygol?
Gwyddor Feddygol yw’r wyddor o ymdrin â chynnal iechyd, ac atal a thrin clefydau. Datblygwyd Diploma Lefel 3 mewn Gwyddor Feddygol i ddysgwyr sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd yn ymwneud â gofal iechyd ac ymchwil feddygol. Mae gwyddonwyr meddygol ar flaen y gad ym maes gwasanaethau gofal iechyd, gan fod eu gwaith yn hanfodol wrth roi diagnosis o glefydau, canfod effeithiolrwydd triniaethau a chwilio am ffyrdd newydd o iachâd.
Beth fyddaf yn dysgu o fewn Gwyddor Feddygol?
Mae’r gymhwyster yn cwmpasu meysydd allweddol iechyd, ffisioleg a chlefydau, yn ogystal â darparu’r cyfle i astudio ffarmacoleg, mesur ffisiolegol, profi clinigol ac ymchwil feddygol. Mae gan bob uned ddiben clir ym maes gwyddor feddygol, sy’n canolbwyntio ar ddysgu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau gwyddonol mewn cyd-destun ystyrlon. Mi fydd disgyblion yn astudio’r tair uned gyntaf ym mlwyddyn deuddeg i gwblhau’r Dystysgrif mewn Gwyddor Feddygol. Bydd disgyblion sy’n parhau ym mlwyddyn 13 yn astudio’r tair uned olaf i gwblhau’r cymhwyster Diploma Lefel 3 mewn Gwyddor Feddygol sy’n gyfwerth mewn maint ag un cymhwyster TAG Safon Uwch.
Cynnwys y cwrs:
Blwyddyn 12- Tystysgrif Lefel 3 mewn Gwyddor Feddygol
• Iechyd a chlefydau dynol (Arholiad- asesiad allanol)
• Technegau mesur ffisiolegol (Gwaith cwrs- asesiad mewnol)
• Dulliau ymchwil Gwyddor Feddygol (Gwaith cwrs- asesiad mewnol)
Blwyddyn 13 - Diploma Lefel 3 mewn Gwyddor Feddygol
• Meddyginiaethau a thrin clefydau (Gwaith cwrs- asesiad mewnol)
• Technegau labordy clinigol (Gwaith cwrs- asesiad allanol)
• Astudiaeth achos meddygol (Arholiad- asesiad allanol)
Gyrfaoedd posib:
Prif ddiben y gymhwyster yw sicrhau bod dysgwyr yn meddu ar y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau mewn egwyddorion gwyddonol allweddol a fydd yn eu cefnogi i addysg uwch neu cyflogaeth mewn meysydd sy’n gysylltiedig â Gwyddor Feddygol. Mae’r gymhwyster yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth wyddonol i ddysgwyr, yn ogystal â sgiliau ymarferol bydd yn eu cefnogi wrth symud ymlaen at amrywiaeth o swyddi yn y maes gofal iechyd. Swyddi fel rhai ym maes gwyddorau bywyd, hynny yw cynnal amrywiaeth o brofion labordy a phrofion gwyddonol i gynorthwyo wrth rhoi diagnosis a thrin clefydau. Gallai hyn gynnwys ymchwiliad microsgopig o samplau o feinwe, dadansoddi celloedd gwaed i ymchwilio i anaemia, neu ddadansoddi samplau i nodi’r hyn sydd wedi achosi haint. Fel arall, byddai cyfleoedd hefyd i symud ymlaen i swyddi yn y gwyddorau ffisiolegol, gan weithio’n uniongyrchol gyda chleifion, yn mesur a gwerthuso organau a systemau penodol, fel gwyddonwyr sy’n gweithio ym maes niwroffisioleg yn cofnodi gweithgarwch trydanol yr ymennydd. Mae cyfran sylweddol o’r cyfleoedd gyrfa yn y sector hwn ar lefel gradd. O gael ei ategu gan gymwysterau priodol eraill, bydd Diploma Lefel 3 mewn Gwyddor Feddygol yn caniatáu symud ymlaen i addysg uwch mewn amrywiaeth o raglenni Gwyddoniaeth Gymhwysol, fel gwyddor fiofeddygol, gwyddorau bywyd a ffisioleg.
Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:
https://www.wjec.co.uk/qualifications/science/vocational/medical-science-level-3/?language_id=2