Adran:
Miss R James - Pennaeth Adran
Mr S Evans
Mrs C Noakes
Mr G Powell
I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk
Trydar: @hanes_ygbm
Gweithgareddau Ychwanegol:
- Taith Berlin
- Taith Parc Treftadaeth y Rhondda (Blwyddyn 8)
‘Er ein bod ni’n astudio digwyddiadau o’r gorffennol, mae Hanes yn berthnasol i’r presennol a’r dyfodol. Mae astudio Hanes wedi caniatáu i mi ddatblygu nifer o sgiliau, yn enwedig sgiliau dadansoddi a gwerthuso sy’n caniatáu i mi edrych ar y byd fel hanesydd. Un o fy mhrofiadau mwyaf cofiadwy wrth astudio Lefel A Hanes oedd mynd i Auschwitz fel rhan o’r prosiect ‘Lessons from Auschwitz’. Roedd hwn yn brofiad bythgofiadwy!’
Ellie Huxter
CA3 (Blwyddyn 7-9)
Blwyddyn |
Tymor |
Thema |
7 |
Hydref |
Fy Mro (Dyniaethau). Uned o waith yn seiliedig ar adnabod cefndir Hanesyddol, Crefyddol a safle Daearyddol ardaloedd penodol yng Nghymru ‘bro’.
|
|
Gwanwyn |
Fy Ngwlad (Dyniaethau). Uned o waith yn seiliedig ar Grefydd, Hanes a Daearyddiaeth Cymru.
|
|
Haf |
Fy Myd (Dyniaethau). Prosiect dosbarth yn seiliedig ar Hanes, Daearyddiaeth ac Addysg Grefyddol gwledydd gwahanol y byd.
|
8 |
Hydref |
1. Y Diwygiad Protestaniadd 2. Dehongliadau o Elisabeth I 3. Methiant yr Armada Sbaenaidd
|
|
Gwanwyn |
1. Cyfnod y Stiwartiaid 2. Y Chwyldro Diwydiannol (amodau’r pyllau glo) 3. Siartiaeth
|
|
Haf |
1. Dociau’r Barri 2. Caethwasiaeth
|
9 |
Hydref |
1.Achosion byr dymor a hir dymor y Rhyfel Byd Cyntaf 2. Effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar fenywod 3. Cadfridogion y Rhyfel Byd Cyntaf
|
|
Gwanwyn |
Byd yr Ugeinfed Ganrif 1.Trychineb Aberfan 2. Cofio Tryweryn 3. John F Kennedy –arlywydd cryf neu gwan a’i lofruddiaeth 4. Terfysgaeth
|
|
Haf |
Dechrau Uned 2 TGAU Hanes UDA – Gwlad Gwahaniaethau 1910-29 1.Mewnfudo 2.Crefydd a Hil
|
CA4 (Blwyddyn 10-11)
“Not to know what happened before one was born is always to remain a child.” – Cicero
Amcanion Cyffredinol:
Ydych chi yn deall y byd yr ydym yn byw ynddo? Ydych chi eisiau gwella eich gwybodaeth a dealltwriaeth o’r hyn sydd ar y newyddion?
Dywed nifer ein bod yn dysgu gwersi o gamgymeriadau’r gorffennol ac eu bod yn llunio’r presennol. Wrth astudio’r cwrs modern a dynamig yma, byddwch yn datblygu ac yn ehangu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r byd ddoe, heddiw a’r dyfodol.
Bwriad y cwrs yw:
• Rhoi cyfle i astudio amrediad o ddigwyddiadau o hanes Cymru, Prydain a’r Byd.
• Ychwanegu at y wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth a gafwyd ym mlynyddoedd 7, 8 a 9.
• Rhoi cyfle i ddefnyddio sawl ffynhonnell gwybodaeth megis TGCh, ffynonellau ysgrifenedig a gweledol, arteffactau, cerddoriaeth, fideo ac adeiladau a safleoedd.
• Rhoi anogaeth a chyfle i ddefnyddio a gwella eich sgiliau ymchwil wrth astudio Hanes.
• Eich paratoi ar gyfer her y dyfodol.
Mae Hanes yn eich paratoi ar gyfer nifer o gyrsiau Lefel-A ac Addysg Uwch mewn coleg neu Brifysgol. Mae sawl gyrfa yn edrych yn ffafriol ar Hanes, fel addysg, y gyfraith, gwleidyddiaeth a’r gwasanaeth sifil, yr heddlu, newyddiaduriaeth, gwaith ymchwil, a llawer mwy. Mae 80% o reolwyr ym Mhrydain wedi astudio Hanes!
Manylion y Cwrs:
Mae’r Adran Hanes yn paratoi disgyblion blynyddoedd 10 ac 11 ar gyfer Maes Llafur Hanes CBAC (Cymru). Ceir ynddo gymysgedd o astudiaethau yn amrywio o draethodau i ymarfer a dehongli tystiolaeth. Bydd disgyblion yn astudio 4 uned
Uned 1 (Astudiaeth Fanwl) (25%) DIRWASGIAD, RHYFEL AC ADFERIAD, 1930-1951
• Bywyd yn ystod y Dirwasgiad
• Prydain a Bygythiad yr Almaen
• Y Rhyfel ar y Ffrynt Cartref
• Cymru a Lloegr wedi’r Ail Ryfel Byd
Uned 2 (Astudiaeth Fanwl) (25%) UDA: GWLAD GWAHANIAETHAU, 1910-29
• Problemau a sialensau
• Newid i’r economi
• Diwylliant a chymdeithas America
• Rôl menywod
Uned 3 (Astudiaeth Thematig) (30%) NEWIDIADAU YM MAES TROSEDD A CHOSB, tua 1000 hyd heddiw
• Achosion a natur troseddau
• Gorfodi cyfraith a threfn
• Dulliau o ymladd trosedd
Uned 4 (Gwaith Cwrs) (20%) ASESIAD DAN REOLAETH
Dau draethawd yn seiliedig ar ffynonellau hanesyddol.
Dulliau Asesu
Mae pawb yn sefyll yr un arholiad sydd yn rhoi cyfle i bawb gyrraedd A*.
CA5 (Blwyddyn 12-13)
Anghenion Mynediad:
Rhoddir y cyfle i’r rhai sydd am barhau â’u hastudiaethau hanesyddol i ddilyn y cwrs. Dylech anelu i gyrraedd Gradd B neu’n uwch yn TGAU Hanes. Serch hynny, mae’n bosib hefyd i fyfyrwyr ail ymafael yn y pwnc os nad ydynt wedi ei astudio yn TGAU. Ystyrir pob cais yn unigol.
Beth yw Hanes?
Haneswyr! Wrth astudio’r gorffennol, gallwn wau’r dyfodol. Mae’r cwrs yn gofyn i chi ddefnyddio eich gwybodaeth, dealltwriaeth a beirniadaeth i gadw Hanes yn fyw. Mae Hanes yn ddefnyddiol er mwyn datblygu eich sgiliau i fynegi barn, cyflwyno syniadau a dadleuon, casglu ac ymchwilio deunydd a threfnu deunydd mewn ffordd gydlynol. Mae Hanes yn bwnc academaidd ac mae’r sgiliau y byddwch yn meithrin trwy astudio’r pwnc yn gallu cynnig rhywbeth i bob swydd a chwrs coleg neu brifysgol. Mae’n gymhwyster atyniadol i gyflogwyr.
Beth fyddech yn dysgu o fewn Hanes?
Bwriad y cwrs yw i gynnig astudiaeth gyffrous ac amrywiol, ac i sicrhau rydym yn astudio rhai cyfnodau hanesyddol gwahanol o’r hyn ag astudiwyd yn y cwrs TGAU. Byddwch yn astudio digwyddiadau hanesyddol hynod o ddiddorol a chyfareddol o fewn cyfnodau modern a chanoloesol yn ystod y cwrs. Defnyddir sawl dull o ddysgu ac addysgu megis trafodaeth seminar, cyflwyniadau llafar, ymchwilio ffynonellau, fideos, ymchwilio trwy ddefnyddio TGCh ac ymweliadau addysgol. Gobeithir hefyd trefnu darlithoedd allanol. Disgwylir i chi ymchwilio a darllen yn annibynnol.
Cynnwys y cwrs:
Uned 1 – Llywodraeth, Gwrthryfel a Chymdeithas yng Nghymru a Lloegr 1485-1603
Uned 2 – Yr Almaen: Democratiaeth i Unbennaeth 1918-1945
Uned 3 – Y Ganrif Americanaidd 1890-1990
Uned 4 - Yr Almaen: Democratiaeth i Unbennaeth 1918-1945
Uned 5 – Ymchwiliad Hanesyddol Unigol
Gyrfaoedd posib:
Mae Hanes yn fanteisiol ar gyfer y gyfraith, newyddiaduriaeth, swydd mewn archifdy ac amgueddfa, llyfrgellyddiaeth, gwasanaeth sifil, addysg, heddlu, lluoedd arfog, swyddi rheoli, y byd marchnata a gwerthu.
Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:
https://www.cbac.co.uk/qualifications/history/r-history-gce-asa-from-2015/