dathlu Dydd Gŵyl Dewi
Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi
Ar Fawrth y cyntaf eleni, yn ôl ein traddodiad arferol, bydd yr ysgol gyfan yn dathlu dydd ein nawddsant, Dydd Gŵyl Dewi.
Bydd y disgyblion ieuengaf, sydd bellach wedi dychwelyd i’r ysgol, yn gwisgo gwisg draddodiadol Gymreig ac yn blasu pice ar y maen er mwyn dathlu gyda’i gilydd.
Ar gyfer y disgyblion hŷn, sy’n parhau i ddysgu o bell ar-lein, paratowyd gwasanaeth arbennig. Casglwyd negeseuon unigryw gan enwogion o Gymru sy’n dathlu eu Cymreictod ac yn rhannu eu balchder nhw o allu siarad Cymraeg. Derbyniwyd negeseuon personol gan enwogion o bob cwr o’r byd, megis Matthew Rhys, Yws Gwynedd, Gethin Jones a Jason Mohammad. Cafwyd sêr y byd perfformio ac actio, cerddoriaeth, chwaraeon, cyflwyno a newyddiadura, a phob un ohonynt yn pwysleisio pwysigrwydd manteisio ar gyfleoedd y Gymraeg.
Diwrnod llawn o ddathliadau felly. Gwyliwch y clip llawn yma, ac edrychwch ar ein tudalen drydar @YGBroMorgannwg i ddilyn dathliadau’r dydd. Dydd Gŵyl Dewi Hapus iawn i chi gyd!