CA5 (Blwyddyn 12-13)
“Dwi wedi synnu pa mor anhygoel yw profiadau pobl a pa mor rhyfedd yw rhai o’r esboniadau amdanynt. Mae pob gwers yn gwneud i mi feddwl!”
“Mae yn dda gallu trafod a rhoi barn fy hyn am syniadau ond hefyd edrych ar syniadau seicolegwyr enwog a dylanwadol iawn.”
Anghenion Mynediad:
TGAU angenrheidiol: tri gwyddoniaeth (graddau oleiaf BCC), o leiaf C Mathemateg a gradd B mewn Cymraeg a / neu Saesneg a 2 bwnc arall (gan gynnwys oleiaf un lle bo angen cymharu syniadau a mynegi barn). Bydd angen dangos tystiolaeth o ddiddordeb real (e.e. darllen yn eang a bod yn ymwybodol o newidiadau diweddar o fewn y maes yn fyd-eang).
Beth yw Seicoleg?
Yr astudiaeth wyddonol o’r meddwl dynol a’i swyddogaethau, yn enwedig rheini sydd yn dylanwadu ar ymddygiad. Mae yn faes eang iawn sydd yn cwmpasu meddyliau, ymddygiad, datblygiad, personoliaeth, emosiynau, cymhelliant a llawer mwy. Mae yn ymdrin gyda egwyddorion haniaethol (e.e y meddwl anymwybodol) a dryswch niwrolegol strwythur yr ymennydd. Ymhellach mae trafodaethau athronyddol am statws y pwnc fel gwyddoniaeth a’r cymhwysiadau posibl i sefyllfaoedd yn y byd go iawn.
Beth fyddaf yn dysgu o fewn Seicoleg?
Mae y cwrs yn gyflwyniad rhagorol i nifer eang o ddamcaniaethau a theoriau hanesyddol a chyfredol o fewn y ddisgyblaeth heriol o seicoleg. Mae cyfle i ystyried pam ein bod yn breuddwydio, beth sydd yn creu troseddwr, pam fod gan rai unigolion ffobia am fytymau, beth yw y dull mwyaf effeithiol o gosbi plant, ai mamau yw y gorau i fagu plant, sut i gael perthynas ramantus lwyddiannus, a ddylen ni drin sgitsoffrenia, pam fod yr octopws mor bwysig i ddeall sut mae pobl yn dysgu ... a llawer mwy. Bydd yn rhoi cyfle i’r dysgwr fynegi barn tra yn rhoi ystyriaeth i dystiolaeth wyddonol gan amrywiol ymchwilwyr ac athronyddwyr.
Cynnwys y cwrs:
O’r Gorffennol i’r Presennol Defnyddio Cysyniadau Seicolegol Goblygiadau yn y Byd Real (Trosedd, Caethiwed, Sgitsoffrenia, Straen, Bwlio ac Awtistiaeth) Dulliau Ymchwil Cymhwysol (gan gynnwys ymchwil bersonol)
Gyrfaoedd posib:
Nyrs, Seicolegydd (Addysg, Troseddol, Iechyd, Chwaraeon), Ymchwilydd, Niwrolegydd, Genetegydd, yr Heddlu, y Gyfraith, Busnes, Dysgu, Therapydd.
Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:
https://www.wjec.co.uk/qualifications/psychology/r-psychology-gce-from-2015/