dosbarth Mesen - meithrin
Croeso mawr i dudalen dosbarth Mesen!
Miss Dyer yw ein hathrawes ni eleni gyda help Miss Lloyd. Mae Miss Szura efo ni bob dydd Mercher, Iau a Gwener. Daw Mrs Atkins i'n dysgu ni ar ddydd Llun. Mae 26 o blant yn ein dosbarth bore ac 19 yn ein dosbarth prynhawn. Rydym wrth ein boddau yn dysgu, chwarae, archwilio a darganfod. Thema'r tymor yma yw'r "Haf."
Gwybodaeth Cyffredinol:
- Ymarfer Corff: Mae ein sesiwn ymarfer corff ar ddydd Iau. Mi fydd angen i'r plant ddod i'r ysgol yn eu gwisg ymarfer corff (crys-T llys, siorts tywyll neu drowsus ymarfer corff ac esgidiau ymarfer corff)
- Llaeth a Ffrwyth: Rydym yn mwynhau amser llaeth a ffrwyth gyda'n ffrindiau. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o £1 yr wythnos (pob taliad i'w wneud trwy Parentpay os gwelwch yn dda)
Dilynwch ni ar X i weld mwy o hwyl a sbri'r dosbarth @MissDyer171176