Clwb ar ôl ysgol - Cynradd
Gweler rhestr o'r clybiau allgyrsiol sydd ar gael ar ôl ysgol. |
---|
Er mor ardderchog yw'r dysgu ac addysgu mewn gwersi, rydym yn annog ein disgyblion i gymryd rhan mewn clybiau y tu allan i oriau'r ysgol i wneud y mwyaf o'i cyfnod gyda ni. Mae nifer fawr o glybiau a digon at ddant pawb. Mae'n gyfle gwych i ddysgu sgil newydd, gwneud ffrindiau a datblygu fel dysgwr cyflawn a hyderus.
Os oes diddordeb gan eich plentyn i fynychu clwb, gofynnwn i chi gysylltu gyda’r swyddfa er mwyn i ni gadw rhestr o aelodau. Os ydy’r clwb yn nodi bod uchafswm o ddisgyblion yn medru mynychu’r clwb, yna “cyntaf i’r felin!”
Bydd gofyn bod y disgyblion yn dod â chit ychwanegol i’r ysgol os yn aros ar gyfer clwb chwaraeon. Ni fydd y disgyblion yn defnyddio’r cit ‘Ymarfer Corff’ sydd ganddyn nhw yn yr ysgol.
Dyma rhai o'r clybiau ar gael isod:-