Cwricwlwm Cyfnod Sylfaen
Y Cyfnod Sylfaen
“Y cwricwlwm statudol ar gyfer pob plentyn tair i saith oed yng Nghymru, a gafodd ei gyflwyno ym mis Medi 2010, yw’r Cyfnod Sylfaen. Mae’n annog plant i fod yn greadigol, i ddefnyddio eu dychymyg ac mae’n sicrhau bod dysgu yn fwy difyr ac effeithiol.” Fframwaith y Cyfnod Sylfaen, 2015
“Y cwricwlwm statudol ar gyfer pob plentyn tair i saith oed yng Nghymru, a gafodd ei gyflwyno ym mis Medi 2010, yw’r Cyfnod Sylfaen. Mae’n annog plant i fod yn greadigol, i ddefnyddio eu dychymyg ac mae’n sicrhau bod dysgu yn fwy difyr ac effeithiol.” (Fframwaith y Cyfnod Sylfaen, 2015)
Yma yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, mae’r Cyfnod Sylfaen wedi ei drefnu’n bedwar dosbarth – Mesen (Meithrin), Llygad y Dydd (Derbyn), Clychau’r Gog (Blwyddyn 1) a Glas y Gors (Blwyddyn 2). Rydym yn croesawu’r disgyblion ifancaf yn 3 oed ac maent yn treulio bore neu brynhawn yn yr ysgol yn ddyddiol. Arweinir pob dosbarth gan athrawon brwd a gofalgar ac rydym yn hynod o ffodus bod gennym o leiaf un cynorthwy-ydd ym mhob dosbarth yn hwyluso’r dysgu a’n cefnogi’r addysgu. Mae’r disgyblion yn cael eu trochi yn yr iaith Gymraeg o’r cychwyn cyntaf wrth ganu, drilio patrymau iaith a dilyn esiampl modelau rôl ardderchog y dosbarthiadau.
Mae’r ystafelloedd dosbarth wedi eu trefnu yn ardaloedd dysgu deniadol ac ysgogol. Mae’r rhain yn rhoi’r cyfle i’r dysgwyr arwain dysgu eu hunain ac i ddatblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol yn drawsgwricwlaidd o fewn y 6 maes dysgu a phrofiad:
- Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Mathemateg a Rhifedd
- Celfyddydau Mynegiannol
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Dyniaethau
- Iechyd a Lles
Mae dodrefn, cyfarpar ac adnoddau wedi eu trefnu yn ofalus i annog dysgu trwy brofiadau ymarferol, pwrpasol a hwyl! Mae gennym hefyd ardaloedd tu allan i’r dosbarthiadau sy’n cynnig amgylchedd ddysgu arbennig ac amrywiol.
Defnyddiwn lais a barn y disgyblion i arwain ein cynlluniau byr a hir-dymor. Rydym hefyd yn bachu ar bob cyfle i ddefnyddio pynciau sy’n codi o ddydd i ddydd fel sbardun i’r dysgu neu fel testunau trafod. Wrth baratoi, defnyddiwn ‘Fframwaith y Cyfnod Sylfaen’ law yn llaw a gofynion ‘Cwricwlwm i Gymru’ a fydd yn statudol o fewn y blynyddoedd nesaf. Rhown bwyslais mawr ar blant yn dysgu trwy brofiad gan roi gweithgareddau mewn cyd-destunau bywyd go iawn er mwyn sicrhau bod y dysgu yn effeithiol ac yn berthnasol iddynt. Darparwn gyfleoedd i blant ifanc i ddysgu drwy chwarae ac arbrofi’n annibynnol er mwyn eu hysbrydoli tu fewn a thu allan i furiau’r dosbarth. Gweithiwn gyda’n gilydd o fewn ethos Gymreig, i sicrhau cyfleoedd cyfartal a heriol i bawb, gan ddatblygu dysgwyr:
- uchelgeisiol a galluog,
- iach a hyderus,
- mentrus a chreadigol,
- a dinasyddion moesol a gwybodus.
Mae pob dosbarth wrth eu boddau yn mynychu ymweliadau amrywiol fel sbardun i thema’r tymor neu i gefnogi waith y dosbarth. Yn ogystal â hyn, defnyddiwn gyfleusterau’r ardal leol yn rheolaidd e.e. y siop leol, yr eglwys, y ganolfan hamdden, archfarchnad, yr orsaf dân a mwy.
Hyrwyddwn bwysigrwydd iechyd corfforol trwy ymarfer corff a bwyta’n iach. Fel rhan o’n gweithdrefnau ‘Ysgol Iach’, darparwn ddarn o ffrwyth a photel o laeth yn ddyddiol i’r dysgwyr yn y Cyfnod Sylfaen. Mae’r dosbarthiadau Meithrin a Derbyn hefyd ynghlwm â ‘Chynllun Gwên’ er mwyn eu haddysgu i frwsio’u dannedd yn gywir. Yn ogystal â hyn, mae lles y disgyblion yn hollbwysig i ni ac fe gynhelir ‘Amser Cylch’ o leiaf dwy waith yr wythnos yn y Cyfnod Sylfaen, er mwyn trafod a chymharu profiadau a siarad am bynciau cyfoes. Cynigwn gyfleoedd i’r disgyblion i rannu eu teimladau o fewn awyrgylch croesawgar, diogel a pharchus.
Yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, mae’r Cyfnod Sylfaen yn rhan allweddol o siwrne plentyn – yn maethu pob unigolyn ac yn gosod sylfeini cadarn i’w paratoi ar gyfer y profiadau dysgu sy’n eu haros trwy’r ysgol a thu hwnt.