Rheolau'r Ysgol
Cwrteisi
- Siaradwch yn gwrtais gyda staff, disgyblion ac ymwelwyr.
- Cofiwch ddal drysau a chynnig help i bawb.
Ar y Bws
- Eisteddwch yn eich sedd trwy gydol y daith.
- Peidiwch byth â sefyll ar eich traed tra bo’r bws yn teithio.
- Ar ddiwedd y dydd os nad yw eich bws wedi cyrraedd arhoswch yn drefnus ar y palmant.
- Wrth adael y bws sicrhewch ei bod hi’n ddiogel i groesi’r ffordd ar ôl i’r bws adael.
- Os ydych yn torri rheolau diogelwch teithio ar fws ysgol yna bydd yr ysgol yn cysylltu â’ch rhieni i wneud trefniadau eraill i’ch cludo yn ôl ac ymlaen i’r ysgol yn ddyddiol.
Yn y Coridorau
- Pan fyddwch yn cyrraedd yr ysgol sicrhewch eich bod yn defnyddio y fynedfa briodol ac nid drysau blaen yr ysgol.
- Cerddwch ar y chwith gan gadw’ch bagiau wrth eich ochr.
- Arhoswch mewn rhes drefnus y tu allan i bob ystafell ddysgu gan ddisgwyl caniatâd eich athro neu athrawes cyn mynd i mewn i’r dosbarth.
- Peidiwch â defnyddio coridor yr athrawon heb ganiatâd.
- Peidiwch â gadael eich bagiau na’ch cotiau yn y coridor.
Yn y Gwasanaeth
- Gadewch eich cotiau a’ch bagiau yn eich ystafell gofrestru.
- Cerddwch i mewn i’r gwasanaeth yn dawel ac yn drefnus ac eisteddwch fesul dosbarth cofrestru.
- Parchwch naws y gwasanaeth gan wrando’n dawel heb siarad nac anesmwytho.
- Gadewch y neuadd yn dawel a threfnus.
- Ewch allan o’r adeilad yn syth ar ôl gadael y ffreutur.
Yn yr Ystafell Ddosbarth
- Peidiwch â mynd i mewn i’r ystafell ddysgu heb ganiatâd athro neu athrawes.
- Ym mhob gwers disgwylir i chi fynd i mewn yn dawel, sefyll y tu ôl i’ch desg, tynnu eich offer o’ch bag heb ffwdan ac aros am ganiatâd yr athro neu athrawes cyn eistedd.
- Disgwylir i chi siarad Cymraeg ym mhob gwers ar wahân i’r gwersi Saesneg ac Ieithoedd Modern.
- Sefwch ar eich traed yn dawel ar ddiwedd y wers i ddisgwyl caniatâd eich athro neu athrawes cyn gadael.
- Peidiwch ag oedi yn y coridor rhwng gwersi, gallwch ddefnyddio’r tai bach yn ystod egwyl ac amser cinio.
- Os daw ymwelydd i’r wers sefwch ar eich traed yn dawel.
Amser egwyl a chinio
- • Arhoswch mewn rhes drefnus y tu allan i’r ffreutur.
- Disgwyliwch am ganiatâd cyn ffurfio rhes y tu mewn i’r ffreutur ar hyd ochr y wal bellaf.
- Ar ôl archebu bwyd eisteddwch o gwmpas un o’r byrddau.
- Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y bwrdd yn lân cyn i chi adael gan ddychwelyd yr hambwrdd i’r man priodol.
- Taflwch unrhyw sbwriel i’r biniau priodol.
- Ni chewch fynd â bwyd na diod allan o’r ffreutur.
- Ewch allan o’r adeilad yn syth ar ôl gadael y ffreutur.
Yn ystod tywydd gwael
- Dylech ddefnyddio’r ffreutur yn ystod amser egwyl a chinio.
- Ni chewch ddefnyddio’r coridorau fel lle i gysgodi.
- Parchwch yr amgylchedd gan roi sbwriel yn y biniau.
Bwlio
- Ni dderbynnir bwlio yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg.
- Dywedwch wrth athro, athrawes neu ffrind yn syth.
- Gallwch ddanfon neges destun ar ein rhif arbennig os ydych yn poeni am achos o fwlio. Bydd y rhif yn glir ar draws yr ysgol.