Cyfrifiadureg
CA4 a 5 (Blwyddyn 10-11 a 12-13)
Arweinydd Pwnc: Mr D Owen
I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk
“Mae’r byd yn newid ac rydym yn defnyddio cyfrifiaduron a thechnoleg llawer yn fwy. Rydw i’n hoffi TGAU Cyfrifiadureg gan ei fod yn heriol. Mwynheais yn fwyaf yr uned rhaglennu gan ei fod wedi galluogi i ni ysgrifennu rhaglenni ein hun megis cyfrifianellau a dyfeisiau trawsnewidiol.”
Disgybl Bl 10
CA4 (Blwyddyn 10-11)
Amcanion Cyffredinol:
Oes gennyt ti ddiddordeb mewn dysgu sut mae cyfrifiadur yn gweithio? Wyt ti’n awyddus i ddysgu sut i raglennu gemau ac apps? Wyt ti’n meddwl am yrfa mewn rhaglennu neu ddylunio gemau? Wyt ti’n meddwl yn rhesymegol ac yn gallu datrys problemau?
Yna TGAU Cyfrifiadureg yw’r cwrs ar dy gyfer! Ble arall gallet ti ddysgu’r sgiliau sydd angen ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain? Defnyddir cyfrifiaduron yn eang ym mhob agwedd ar fusnes, diwydiant, llywodraeth, addysg, hamdden a’r cartref.
Yn yr oes dechnolegol hon, mae astudio cyfrifiadureg, ac yn enwedig y modd y defnyddir cyfrifiaduron wrth ddatrys amrywiaeth o broblemau, yn hanfodol i ddysgwyr.
Mae TGAU mewn Cyfrifiadureg CBAC yn annog dysgwyr i:
• ddeall a chymhwyso egwyddorion sylfaenol a chysyniadau cyfrifiadureg, gan gynnwys; haniaeth, dadelfeniad, rhesymeg, algorithmau, a chynrychioliad data
• dadansoddi problemau mewn termau cyfrifiadurol drwy brofiad ymarferol o ddatrys problemau o’r fath, gan gynnwys dylunio, ysgrifennu a dadfygio rhaglenni er mwyn gwneud hynny
• meddwl yn greadigol, arloesol, dadansoddol, rhesymegol a beirniadol
• deall y cydrannau sy’n creu’r systemau digidol, a sut maent yn cyfathrebu â’i gilydd a gyda systemau eraill
• deall effeithiau technoleg ddigidol ar yr unigolyn a’r gymdeithas ehangach
• cymhwyso sgiliau mathemategol sy’n berthnasol i gyfrifiadureg.
Manylion y Cwrs:
Mae’r cwrs yn addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn sut mae cyfrifiaduron yn gweithio a sut i’w rhaglennu. Mae’r cwrs wedi rannu i dair uned
Uned 1: Deall Cyfrifiadureg
Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud
50% o’r cymhwyster 100 marc
Mae’r uned hon yn ymchwilio i galedwedd, gweithrediadau rhesymegol, cyfathrebu, cynrychioliad data a mathau o ddata, systemau gweithredu, egwyddorion rhaglennu, peirianneg meddalwedd, llunio rhaglenni, diogelwch a rheoli data ac effeithiau technoleg ddigidol ar y gymdeithas ehangach.
Uned 2: Meddwl Cyfrifiannol a Rhaglennu
Arholiad ar y sgrîn: 2 awr
30% o’r cymhwyster 60 marc
Mae’r uned hon yn ymchwilio i ddatrys problemau, algorithmau a lluniadau rhaglennu, ieithoedd rhaglennu, strwythurau data a mathau o ddata a diogelwch a dilysiad.
Uned 3: Datblygu Meddalwedd
Asesiad di-arholiad: 20 awr
20% o’r cymhwyster 80 marc
Mae’r uned hon yn ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr lunio datrysiad wedi’i raglennu i broblem. Rhaid iddynt ddadansoddi’r broblem, llunio datrysiad i’r broblem, datblygu’r datrysiad a rhoi awgrymiadau ar gyfer datblygu’r datrysiad ymhellach. Wrth lunio’r datrysiad mae’n ofynnol i’r dysgwyr gynhyrchu cofnod mireinio sy’n dangos tystiolaeth o ddatblygiad y datrysiad.
Y dyfodol?
Mae’r cwrs yn paratoi disgyblion ar gyfer her y dyfodol. Mae’r cwrs yn sylfaen ardderchog ar gyfer Lefel A Cyfrifiadureg ac ar gyfer Addysg Uwch mewn coleg neu Brifysgol mewn amryw o bynciau gan gynnwys Cyfrifiadureg, TGCh, Busnes a TGCh, Rhaglennu Gemau, a Dylunio Amlgyfrwng. Gall hefyd arwain at nifer o yrfaoedd ym maes Cyfrifiadureg a meysydd eraill.
CA5 (Blwyddyn 12-13)
Anghenion Mynediad:
Cyfrifiadureg TGAU gradd C
Mathemateg TGAU gradd C
Beth yw Cyfrifiadureg?
Defnyddir cyfrifiaduron yn helaeth ym mhob agwedd ar fusnes, diwydiant, llywodraeth, addysg, hamdden ac yn y cartref. Yn yr oes gynyddol dechnolegol hon, mae astudiaeth o gyfrifiadureg, ac yn arbennig sut mae cyfrifiaduron yn cael eu defnyddio i ddatrys amrywiaeth o broblemau, yn werthfawr i’r dysgwyr ond yn hanfodol hefyd i les y wlad ei hun yn y dyfodol.
Mae cyfrifiadureg yn integreiddio’n dda â phynciau ar draws y cwricwlwm. Mae’n galw am ddisgyblaeth resymegol a chreadigedd ddychmygus wrth ddethol a dylunio algorithmau ac ysgrifennu, profi a dadfygio rhaglenni; mae’n dibynnu ar ddeall rheolau iaith ar lefel sylfaenol; mae’n annog ymwybyddiaeth o’r ffordd mae systemau cyfrifiadurol yn cael eu rheoli a’u trefnu; mae’n estyn gorwelion y dysgwyr tu hwnt i amgylchedd yr ysgol neu’r coleg wrth iddyn nhw werthfawrogi effeithiau cyfrifiadureg ar y gymdeithas ac ar unigolion.
Am y rhesymau hyn, mae cyfrifiadureg yr un mor berthnasol i ddysgwr yn astudio pynciau’r celfyddydau ag ydyw i ddysgwr yn astudio pynciau’r gwyddorau.
Beth fyddaf yn dysgu o fewn Cyfrifiadureg?
Mae cymhwyster UG a Safon Uwch Cyfrifiadureg CBAC yn annog dysgwyr i ddatblygu’r canlynol:
• dealltwriaeth o, a’r gallu i gymhwyso, egwyddorion a chysyniadau sylfaenol cyfrifiadureg, gan gynnwys haniaethu, dadelfennu, rhesymeg, algorithmau a chynrychioli data
• y gallu i ddadansoddi problemau yn nhermau cyfrifiannu trwy brofiad ymarferol o ddatrys problemau o’r fath, gan gynnwys ysgrifennu rhaglenni i wneud hynny
• y gallu i feddwl yn greadigol, arloesol, dadansoddol, rhesymegol a beirniadol
• y gallu i weld perthnasoedd rhwng agweddau gwahanol ar gyfrifiadureg
• sgiliau mathemategol
• y gallu i fynegi cyfleoedd unigol (moesol), cymdeithasol (moesegol), cyfreithiol a diwylliannol a risgiau technoleg ddigidol.
Cynnwys y cwrs:
Uned 1: Hanfodion Cyfrifiadureg
Uned 2: Rhaglennu Ymarferol i Ddatrys Problemau
Uned 3: Rhaglennu a Datblygu Systemau
Uned 4: Saernïaeth Gyfrifiadurol, Data, Cyfathrebu a Rhaglenni
Uned 5: Rhaglennu Datrysiad i Broblem (Cywaith)
Gyrfaoedd posib:
Os ydych chi wedi astudio Cyfrifiadureg, byddwch chi wedi ennill llawer o sgiliau technegol ac annhechnegol sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr, o arweinyddiaeth i raglennu. Mae cwmpas cynyddol Cyfrifiadureg yn golygu bod gennych ddigon o ddewis mewn amrywiaeth eang o feysydd arbenigol iawn. Gyda thechnolegau cyfrifiadurol yn chwarae rhan gynyddol ym mhob agwedd ar fywyd modern, mae’n debygol y bydd galw mawr am eich Cyfrifiadureg ar draws llawer o wahanol ddiwydiannau. Mae’r rhain yn cynnwys: sefydliadau ariannol, cwmnïau ymgynghori, cwmniau meddalwedd, cwmnïau cyfathrebu, warysau data, cwmnïau rhyngwladol (cysylltiedig â TG, gwasanaethau ariannol ac eraill), asiantaethau’r llywodraeth, prifysgolion ac ysbytai.
Sylwad Disgybl: “Un o’r pethau mwyaf defnyddiol a gefais o Gyfrifiadureg oedd sgiliau sydd gyda gwerth yn y byd go iawn, fel rheoli prosiect, prosiectau grŵp, gwaith cwrs, a chyflwyniadau. Maen nhw i gyd yn bethau hanfodol i gyflogwr nad ydyn nhw o reidrwydd yn bethau y byddech chi’n eu cysylltu â Chyfrifiadureg.”
Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:
https://www.cbac.co.uk/qualifications/computer-science/r-computer-science-gcse-2017/?language_id=2