Daearyddiaeth
Caiff y disgyblion y cyfle i brofi eu hardal leol a rhai o wledydd y byd mewn ffordd ymarferol yn eu gwersi Daearyddiaeth. Mae ystod eang o themâu i’w astudio o nodweddion a thirluniau lleol i drychinebau naturiol. Mae tripiau a gwaith maes yn hanfodol wrth ddysgu am y pwnc deinamig hwn.
Adran:
Miss H Evans - Pennaeth Adran
Miss L Jones
I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk
Trydar: @daear_ygbm
Gweithgareddau Ychwanegol:
- Arfordiro yn y Gwyr - Blwyddyn 8
- Taith Gwlad yr Iâ - Blwyddyn 10 ac 11
- Taith Maes - Blwyddyn 10-13
'Mae Daearyddiaeth yn bwnc cyffrous sy’n cwmpasu nifer fawr o feysydd gwahanol. Fi wir yn hoffi bod popeth rydym yn astudio yn gallu cael ei weld yn y byd. Er enghraifft, roeddwn yn gweld dysgu am lifogydd wir yn ddiddorol oherwydd mae fy ardal leol yn cael ei llifogi drwy’r amser! Mae’r elfen ‘fyw’ yma o Daear yn gwneud y gwersi’n ddiddorol a’r adolygu llawer yn haws.'
Huw Jones (Blwyddyn 13)
CA3 (Blwyddyn 7-9)
Am fwy o wybdaeth am waith Blwyddyn 7 gwelwch ‘Dyniaethau’
Blwyddyn |
Tymor |
Themau |
8 |
Hydref |
Yr Eidal
|
8 |
Gwanwyn |
Yr Arfordir
|
8 |
Haf |
Adwerthu
|
9 |
Hydref |
Bangladesh
|
9 |
Gwanwyn
|
Materion Llosg
|
9 |
Haf |
Peryglon Tectonig (Dechrau’r cwrs TGAU)
|
CA4 (Blwyddyn 10-11)
Mae TGAU Daearyddiaeth CBAC yn mabwysiadu dull ymholi wrth astudio gwybodaeth, materion a chysyniadau daearyddol. Mae’n seiliedig ar yr egwyddor y dylai addysg ddaearyddol alluogi dysgwyr i ddod yn feddylwyr beirniadol a myfyrgar drwy eu hannog i gymryd rhan weithredol yn y broses ymholi.
Mae gwaith maes yn agwedd hanfodol ar addysg ddaearyddol ac ar y cymhwyster hwn. Dylai dysgwyr gyfuno ac ehangu eu dealltwriaeth o gysyniadau daearyddol a ddysgir yn yr ystafell ddosbarth drwy ymwneud ag ymholiadau a gynhelir y tu allan i’r ystafell ddosbarth.
Uned 1: Tirweddau Ffisegol a Dynol Newidiol
1. Tirweddau a Phrosesau Ffisegol (Tirweddau nodedig yng Nghymru, Proses a newidiadau tirffurf mewn dwy dirwedd wahanol a nodedig yng Nghymru neu’r DU ehangach, Dalgylchoedd afonydd yng Nghymru a’r DU).
2. Cysylltiadau gwledig trefol (Y continwwm trefol-gwledig yng Nghymru, Newidiadau poblogaeth a threfol yn y DU, Materion trefol mewn dinasoedd global cyferbyniol).
3. Tirweddau a Pheryglon Tectonig (Prosesau a thirffurfiau tectonig, Arweddion sy’n agored i niwed a lleihau peryglon).
Uned 2: Materion Amgylcheddol a Datblygu
5. Y Tywydd, yr Hinsawdd ac Ecosystemau (Newid hinsawdd yn ystod y cyfnod Cwaternaidd, Patrymau a phrosesau’r tywydd, Prosesau a rhyngweithiadau o fewn ecosystemau, Gweithgarwch dynol a phrosesau ecosystemau).
6. Materion Datblygu ac Adnoddau (Mesur anghydraddoldebau byd-eang, Achosion a chanlyniadau datblygiad anghyson ar raddfa fyd-eang ac o fewn un wlad incwm isel (LIC) ac un wlad newydd ei diwydianeiddio (NIC), Adnoddau dŵr a’u rheolaeth, Datblygu economaidd rhanbarthol)
7. Materion Datblygu Cymdeithasol (Mesur datblygiad cymdeithasol, Materion cyfoes).
Uned 3: Ymholiadau Gwaith Maes
Rhoddir cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau ymholi daearyddol drwy waith maes.
Disgwylir iddynt ymgymryd â dau ymholiad gwaith maes, gyda’r ddau mewn amgylchedd cyferbyniol:
1. Mewn un amgylchedd, bydd y gwaith maes yn canolbwyntio ar fethodoleg
2. Cynhaliwyd yr ail brofiad gwaith maes mewn amgylchedd cyferbyniol.
Asesu
• 40% o farciau terfynol o bapur arholiad Uned 1
• 40% o farciau terfynol o bapur arholiad Uned 2
• 20% o farciau terfynol o asesiad di-arholiad.
CA5 (Blwyddyn 12-13)
Anghenion Mynediad | Entry Requirements:
Dylech gael gradd B TGAU neu’n uwch yn Naearyddiaeth i fod yn gymwys ar gyfer y cwrs.
Beth yw Daearyddiaeth?
“Geography is the subject which holds the key to our future.” Michael Palin
Daearyddwyr sydd yn dal yr allwedd i’r dyfodol! Mae Daearyddiaeth yn bwnc symbylol, heriol ac ysgogol sy’n berthnasol i fywyd bob dydd. Mae’n bwnc sydd yn rhoi’r dealltwriaeth o brosesau cymdeithasol a chorfforol yng nghyddestun lle - gan gydnabod y gwahaniaethau mawr mewn diwylliannau, systemau gwleidyddol, economïau, tirweddau ac amgylcheddau ledled y byd, ac yn archwilio’r cysylltiadau rhyngddynt.
Beth fyddaf yn dysgu o fewn Daearyddiaeth?
Mae amrywiaeth o sgiliau a themâu yn cael eu dysgu o fewn y pwnc sy’n hybu eich datblygiad i fod yn ddadansoddol ac yn ymwybodol o’r amgylchedd ffisegol a dynol yr ydych yn byw ynddo. Mae’r cwrs yn dyfnhau eich dealltwriaeth ar destunau o’r TGAU yn ogystal â chyflwyniad hollol newydd i destunau diddorol a chyfredol. Byddwch yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau gwaith grŵp ac unigol. Byddwch yn datblygu eich sgiliau cyfathrebu ac mi fydd Technoleg Gwybodaeth yn cymryd rôl flaenllaw wrth ymchwilio, dadansoddi a chyflwyno gwybodaeth. Byddwch yn cael y cyfle i fynychu darlithoedd prifysgol, cyrsiau gwaith maes a dyddiau gwaith maes unigol yn ogystal.
Cynnwys y cwrs:
Unedau Dysgu UG
Uned 1 Tirweddau sy’n Newid
• Tirweddau Arfordirol
• Peryglon Tectonig
Uned 2 Lleoedd sy’n Newid
• Lleoedd sy’n Newid
• Ymchwiliad Gwaith Maes mewn Daearyddiaeth Ffisegol a Dynol
Unedau Dysgu Safon Uwch
Uned 3 Systemau Byd-eang a Rheolaeth Fyd-eang
• Systemau Byd-eang: Cylchredau Dŵr a Charbon.
• Rheolaeth Fyd-eang: Newid a Heriau Prosesau a phatrymau mudo byd-eang a dulliau bydeang o reoli cefnforoedd y Ddaear.
• Sialensiau’r 21ain Ganrif
Uned 4 Themâu Cyfoes mewn Daearyddiaeth
• Peryglon Tectonig
• Twf a Her Economaidd: Tsieina
• Y Tywydd a’r Hinsawdd
Uned 5 Ymchwiliad annibynnol.
Un ymchwiliad annibynnol ysgrifenedig, wedi’i seilio ar gasglu data cynradd a gwybodaeth eilaidd.
Gyrfaoedd posib:
Mae Daearyddiaeth fel cymhwyster U.G. a S.U. yn un sydd yn cael ei ystyried yn arbennig o ddefnyddiol gan gyflogwyr a phrifysgolion. Mae’r grŵp Russell o brifysgolion yn ei ystyried fel pwnc ‘hyrwyddiad’ (facilitating subject), sef pwnc sy’n medru cyfarparu myfyrwyr â’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer nifer fawr o gyrsiau cystadleuol. Yn ogystal, mae’n gallu arwain at nifer o yrfaoedd diddorol megis cynllunio, addysg, twristiaeth, teithio, dadansoddi data, rheolaeth a meteoroleg.
Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:
https://www.cbac.co.uk/qualifications/geography/r-geography-gce-asa-from-2016/index.html