Croeso'r Pennaeth
Mae’n fraint ac yn anrhydedd i mi gyflwyno Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg i chi.
‘Dyro dy law i mi ac fe awn i ben y mynydd’ yw ein harwyddair ac yn wir mae’n cwmpasu popeth yr ydym yn ei gredu ynddo yn yr ysgol hon. Fel ysgol, rydym yn addo y bydd pob plentyn sy’n mynychu Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn cael gofal o’r radd flaenaf a’r ddarpariaeth orau posib o ran addysg a chyfleoedd ehangach i gyflawni eu dyheadau ac i ddiwallu eu hanghenion unigol.
Mae’n gyfnod hynod o gyffrous yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg ar hyn o bryd. Mae gwaith adeiladu sylweddol er mwyn gwella ansawdd a safon ein cyfleusterau ar fin dod i ben ac rydym wedi penodi staff i swyddi newydd sy’n datblygu’r ddarpariaeth o’r Feithrin i’r Chweched Dosbarth. Rydym yn gweithio’n ddiwyd i sicrhau fod ein disgyblion yn gael y gofal a’r ddarpariaeth academaidd sy’n cwrdd â’u gofynion personol o’r adeg y maent yn cyrraedd yr ysgol yn dair mlwydd oed neu’n cyrraedd pan yn unarddeg mlwydd oed hyd nes yr adeg y maent yn gadael i gymryd y cam nesaf i fod yn aelodau blaengar o’u cymuned.
Edrychwn ymlaen at ddyfodol llewyrchus tu hwnt i bawb sydd ynghlwm ag Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg. Mae croeso cynnes i bawb ymuno ar y daith hon gyda ni, taith gyffrous mewn ysgol sy’n ymrwymo i sicrhau fod pawb yn llwyddo mewn awyrgylch sy’n seiliedig ar barch a Chymreictod.
Mr Rhys Angell-Jones