Gwyddoniaeth
Oherwydd COVID-19 mae'n debygol bydd newid trefniadau digwyddiadau allgyrsiol
Clwb Gwyddoniaeth
Os ydych chi ym mlwyddyn 7 ac eisiau trio arbrofion syfrdanol; neu os ydych chi eisiau darganfod mwy am sut mae'r byd yn gweithio; neu os ydych chi dim ond eisiau gwario mwy o amser yn y labordai newydd gyda'ch ffrindiau - yna does dim rhaid edrych yn bellach na'r clwb gwyddoniaeth. Mae'r clwb wythnosol yma yn rhoi amser i chi ofyn y cwestiynau yna i gyda a cheisio rhai o'r arbrofion 'da chi wedi bod yn torri bol i wneud!
Caiff y clwb ei redeg gan aelodau o'r adran Wyddoniaeth a rhai o ddisgyblion hyn yr ysgol sydd eisiau rhannu'r angerdd a'r brwdfrydedd yna gyda chi!
Clwb STEM
I ddisgyblion o flwyddyn 8-10 mae croeso i chi geisio ateb heriau gwyddonol gyda ffrindiau yn y clwb STEM wythnosol. Mae'r clwb hefyd yn cymryd rhan mewn nifer o gystadlaethau diddorol.
Dyma rhai enghreifftiau:
- Her Dydd Faraday
- Cystadleuaeth Gwyddorau Byw
- Cystadleuaeth Top of The Bench Royal Society of Chemistry
- Digwyddiad British Airways STEM #notjustforboys
- Engineering Team Challenge gyda'r Institute of Civil Engineers Cymru (Roedd tim 2019 yn fuddugol ar draws De Cymru)
- Digwyddiad Science in Health Live
- Dydd Gwyddoniaeth gyda Llywodraeth Cymru
- Gweithdy DNA Techniquest
- Cystadleuaeth Cymdeithasol Wyddonol Caerdydd a'r Cylch