Prydlondeb, cyrraedd a chasglu ac Absenoldebau
Prydlondeb
O’r dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6, mae’r ysgol yn dechrau am 8.30yb. (Meithrin bore 8:30yb, Meithrin prynhawn 12:30yp). Sicrhewch os gwelwch yn dda, fod eich plentyn yn brydlon. Rydym yn awyddus i’ch plentyn ffurfio arferion da. Mae prydlondeb yn bwysig iawn ac mae hwyrddyfodiaid yn tarfu ar addysg eu hunain ac ar addysg plant eraill. Os fydd eich plentyn yn cyrraedd yr ysgol ar ôl y gofrestr fe fydd angen i chi arwyddo ein llyfr hwyr o 8.40am bob dydd.
Cyrraedd
Mae'r mynediad i ddisgyblion yr Adran Dysgu Sylfaen trwy y llwybr i'r chwith o'r adeilad. Mae'r mynediad i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 trwy giat yr iard flaen.
Does dim hawl gyda rhieni i fynd i mewn i'r maes chwarae yn y bore. Bydd cyfle i siarad gydag aelod o staff sydd ar ddyletswydd os oes gennych chi gwestiwn.
Casglu
Gofynnwn yn garedig i chi gasglu eich plant yn brydlon ar ddiwedd y dydd am 3:05yp. Os ydych yn hwyr yn casglu eich plant, cysylltwch â swyddfa'r ysgol cyn gynted ag sy'n bosib.
Os oes rhywun gwahanol/newydd yn casglu eich plentyn ar ddiwedd y dydd, bydd angen cysylltu â'r ysgol o flan llaw.
Rhaid i’r unigolyn fod dros 16 oed.
Os ydych am gasglu eich plentyn yn gynt oherwydd apwyntiad penodol byddwn yn gofyn i chi lofnodi ein llyfr yn y dderbynfa.
Absenoldebau
Ffoniwch yr ysgol cyn 9.00yb os fydd eich plentyn yn absennol er mwyn egluro’r rheswm am yr absenoldeb. Bydd rhywun yn y swyddfa o 8.00yb ymlaen i ateb eich galwadau. Os na dderbyniwn alwad ffôn erbyn 10yb, byddwn yn cysylltu gyda chi.