Ysgol Arloesi
Cawsom wahoddiad i ymuno ag ysgolion arloesol gan Lywodraeth Cymru yn Ebrill 2016, gan ymaelodi gyda’r grŵp gweithio dylunio strategol ar Sgiliau ehangach, dimensiwn Cymreig a safbwynt rhyngwladol.
“Fel ysgol arloesi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, mae’r athrawon yn hyderus i arbrofi wrth gynllunio a threialu gweithgareddau a phrofiadau dysgu newydd. Mae prosiectau thematig fel y gwaith Patagonia ym Mlwyddyn 5 a 6 a Fi, Fy Mro, Fy Myd ym Mlwyddyn 7 yn plethu profiadau sy’n datblygu gwahanol fedrau yn grefftus.” ESTYN 2019
Ymrwymwyd y Cyngor Ysgol a phob adran uwchradd yn yr ymchwil i’r agweddau yma o Linyn 1 i gychwyn ar wireddu’r argymhellion o fewn yr adroddiad “Dyfodol Llwyddiannus”. Bu lawer o ymchwil i’r sgiliau ehangach, yn enwedig creadigrwydd, ynghyd ag addysg yrfaol a’r rhaglenni entrepreneuriaeth sydd ar gael yn fydol. Ymchwiliom hefyd i’r modd mwyaf byw a dilys o gyfleu’r dimensiwn Cymreig a’r safbwynt rhyngwladol i’r dysgwyr.
Yn Llinyn 2 buom yn gweithio mewn partneriaeth gydag Ysgol Gyfun Garth Olwg ym Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol, ac ym mis Tachwedd, 2017 gwnaethom ymuno gyda’r Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Cawsom gyfle i arbrofi gyda’r cwricwlwm newydd wrth iddo ddatblygu gan roi adborth i’r Llywodraeth a hyfforddi ein hathrawon ar yr un pryd. Ymchwiliom i holl gwricwla blaengar y byd, a chawsom fewnbwn gan arweinwyr ym meysydd addysgol, gan raeadru’r wybodaeth angenrheidiol yn ôl i’r ysgol. Mae’r broses o ddylunio cwricwlwm wedi bod yn heriol, cyffrous ac yn fraint o’r mwyaf.
Rydym yn parhau i fod yn rhan o’r broses fel aelod o’r Grŵp Ymgynghorol ar Asesu a gychwynnodd ym mis Mehefin, 2020. Hefyd, Helen Baker yw Arweinydd Rhanbarthol Cyfrwng Cymraeg MDPh Y Gwyddoniaeth a Thechnoleg Consortiwm Canolbarth y De ac yn gyfrifol am lunio a hwyluso cyfleoedd dysgu proffesiynol yn unol â diwygio cenedlaethol a'r Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol. Mae’r swydd yn cynnwys hwyluso rhwydweithiau dysgu proffesiynol neu adnoddau ar-lein i gefnogi blaenoriaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, a chefnogi Consortiwm Canolbarth y De i ymateb i flaenoriaethau dysgu proffesiynol sy'n dod i'r amlwg a chyfrannu at ddatblygu strategaethau yn y dyfodol.
Bu Catrin Bennett yn gweithio ar ran yr ysgol gyda’r arloeswyr Dysgu Proffesiynol yn y cyfnod yma. I ddechrau, y ffocws oedd i gynghori ar agweddau o’r drafft o’r cwricwlwm, ac i gefnogi ysgolion eraill gyda’u parodrwydd ar gyfer Cwricwlwm i Gymru. Yn 2019 newidwyd rôl yr ysgol i fod yn ysgol arweiniol ar ymholi a rydym wedi gweithio’n agos gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Yn ein ymholiadau rydym yn canolbwyntio ar agweddau cwricwlaidd a dysgu proffesiynol. Mi fydd y gwaith yma yn parhau yn 2021 wrth i ni ddechrau gweithio gydag ysgolion eraill yr ardal.