Y Siartr Ymddygiad
Yn ein dosbarthiadau rydym yn disgwyl i ddisgyblion:-
- I gyrraedd yn brydlon gyda’r offer angenrheidiol
- I barchu hawl pawb i gael llonydd a chware teg
- I aros wrth eich desg a gwneud yr hyn mae’r athro am i chi wneud
- I wneud eich gorau wrth gwblhau’r gwaith
- I gwblhau’r gwaith cartref yn llawn ac mewn amser
Yn yr ysgol rydym yn disgwyl i bawb:-
- I siarad Cymraeg bob tro
- I barchu eiddo a hawliau ein gilydd
- I barchu amgylchedd yr ysgol
- I gerdded ar y chwith
- I ddilyn rheolau yr ysgol
Yn yr ysgol rydym yn disgwyl i’r athrawon:-
- I gyrraedd gwersi ar amser
- I barchu a gwrando ar y disgyblion
- I gynnig cymorth pan fo angen
- I baratoi yn ofalus a bod yn drefnus
- I farcio gwaith cartref yn brydlon