Bydd yr offer canlynol yn ddefnyddiol i yrfa ysgol pob disgybl:
- Pren mesur
- pensil
- dilëydd
- onglydd a chwmpawd
- Cyfrifiannell
- Geiriadur Cymraeg
- Geiriadur Saesneg a Thesawrws
- Geiriadur Ffrangeg
- Pensiliau lliw
Gwaherddir defnyddio piniau ffelt a phapur hylif (e.e. Tippex) yn yr ysgol.
Eiddo Personol
Apeliwn i rieni i sicrhau bod enw yn cael ei osod ar bob eitem o eiddo disgybl. Gofynnir i ddisgyblion i beidio â dod ag eitemau gwerthfawr gyda nhw i’r ysgol. Nid ydym yn annog y disgybl i ddod â ffôn symudol gyda ef/hi ond yr ydym yn deall fod rhai disgyblion eu hangen o safbwynt diogelwch wrth iddynt gerdded i ac yn ôl o’r ysgol. Felly disgwylir iddynt fod yn y bag ac wedi ei droi i ffwrdd. Os gwelir unrhyw ffôn yn yr ysgol fe fydd y disgybl yn derbyn rhybudd gan yr athro. Os caiff disgybl ei ddal yn defnyddio'r ffon, bydd yr athro yn casglu'r ffôn a disgwylir i riant ddod i gasglu'r ffon o'r Dderbynfa ar ddiwedd y dydd. Ni chaniateir i ddisgyblion ddod ag offer clywedol megis i-pods neu chwaraewyr MP3 i’r ysgol.
Loceri
Caiff disgyblion blwyddyn 7 gynnig locer ar ddechrau'r flwyddyn. Bydd angen talu blaendal o £10.00 ar ddechrau mis Medi a chaiff ei ddychwelyd am yr allwedd mis Gorffennaf.