Gwyddoniaeth
Mae Gwyddoniaeth yn ein galluogi i ddeall y byd o’n hamgylch. Bydd disgyblion yn dysgu am gelloedd, elfennau a chyfansoddion, asidau, cylchedau trydan a gweld enghraifft o ddarganfyddiad lleol: Deinosor Sili. Bydd Blwyddyn 7 hyd yn oed yn cael y cyfle i ystyried sut gallent oroesi ar ynys bellennig wrth iddynt gymhwyso eu gwybodaeth i ddatrys problemau.
Adran:
Miss C Walters - Pennaeth Gwyddoniaeth a Cemeg
Mr D Davies - Pennaeth Ffiseg
Mrs L Downey
Miss L Elena
Mr J Evans
Mrs A Jones
Mr O Jones
Miss C Ormerod - Pennaeth Bioleg
I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk
Trydar: @gwyddygbm
Gweithgareddau Ychwanegol:
- Clwb Gwyddoniaeth
- Clwb STEM
- Gweithdy DNA
- Gwyddoniaeth mewn Iechyd (live)
- Her Gwyddorau Bywyd
- Her tîm Peiriannwyr
- Top of the Bench Royal Society of Chemistry
- Her Faraday
CA3 (Blwyddyn 7-9)
Tymor |
Blwyddyn 7 |
Blwyddyn 8 |
Hydref |
1. Diogelwch yn y labordy 2. Celloedd 3. Goroesi ar ynys |
1. Atgenehdlu 2. Elfennau a chyfansoddion 3. Tonnau |
Gwanwyn |
4. Deinosor Sili 5. Asidau |
4. Maeth 5. Deunyddiau |
Haf |
6. Trydan 7. Ecosystemau |
6. Resbiradaeth a cylchrediad y gwaed 7. Grymoedd |
Tymor |
Blwyddyn 9 |
||
Bioleg |
Cemeg |
Ffiseg |
|
Hydref |
Celloedd a resbiradaeth
|
Yr Atom |
Creu trydan |
Gwanwyn |
System Anadlu
|
Gwahanu sylweddau |
Cylchedau trydan |
Haf |
Maethiad |
Dŵr
|
Defnyddio egni |
CA4 (Blwyddyn 10-11)
Bydd yr Adran yn gosod y disgyblion mewn i setiau yn ôl perfformiad a gallu. Cynigir tri chwrs TGAU, gyda phob set yn dilyn y cwrs mwyaf addas iddynt.
Cwrs Gwyddoniaeth |
Nifer y TGAU a enillir ar ddiwedd y cwrs |
Gwyddorau ar wahân (Bioleg, Cemeg a Ffiseg) |
3 |
Gwyddoniaeth (Dwyradd) TGAU |
2 |
Gwyddoniaeth Gymhwysol (Gradd Unigol) |
1 |
Er mwyn cael astudio un o’r gwyddorau at Safon Uwch, bydd angen i ddisgyblion gael gradd ‘B’ neu’n well yn y wyddor hynny. Gwyddorau ar wahân (‘Gwyddoniaeth Driphlyg’) Mae’r tair gwyddor (Bioleg, Cemeg, Ffiseg) yn cael eu hasesu’n annibynnol o’i gilydd gyda gradd wahanol yn cael ei roi i bob un o’r tair.
Arholiad allanol ysgrifenedig 90% |
Pryd? |
Asesiad o dan reolaeth (ymarferol) 10% |
Cemeg 1 Bioleg 1 Ffiseg 1 80 marc yr un 1awr 45 mun y papur |
Diwedd Blwyddyn 10 |
30 marc yr un: un asesiad Cemeg un asesiad Bioleg un asesiad Ffiseg |
Cemeg 2 Bioleg 2 Ffiseg 2 80 marc yr un 1awr 45 mun y papur |
Diwedd Blwyddyn11 |
Mae pob arholiad allanol ar gael mewn dwy haen: Haen Sylfaenol (sy’n cwmpasu graddau “C” i “G”) a Haen Uwch (sy’n cwmpasu graddau “A*” i “E”). Mae’r asesiadau o dan reolaeth (ymarferol) yr un haen i bawb. Mae marc da gyda’r asesiadau ymarferol yn caniatáu i ddisgyblion sy’n sefyll Haen Sylfaenol ennill gradd “B” ar yr amod bod eu perfformiadau yn y papur ysgrifenedig yn dda.
Gwyddoniaeth (Dwyradd) TGAU Mae’r tair gwyddor (Bioleg, Cemeg, Ffiseg) yn cael eu hasesu mewn gwahanol arholiadau, ond mae marciau bob asesiad yn cael eu cyfuno i roi dwy radd derfynol ar gyfer y pwnc. Mae yna lai o gynnwys i’r cwrs o’i gymharu â’r gwyddorau ar wahân. Serch hyn mae modd astudio’r pwnc at Safon Uwch os yw’r disgybl yn sicrhau gradd ‘B’ neu’n well yn y wyddor hynny.
Arholiad allanol ysgrifenedig 90% |
Pryd? |
Asesiad o dan reolaeth (ymarferol) 10% |
Cemeg 1 Bioleg 1 Ffiseg 1 60 marc yr un 1awr 15 mun y papur |
Diwedd Blwyddyn 10 |
Bydd angen cwblhau dau o’r asesiadau isod: un asesiad Cemeg (30 marc) un asesiad Bioleg (30 marc) un asesiad Ffiseg (30 marc) |
Cemeg 2 Bioleg 2 Ffiseg 2 60 marc yr un 1awr 15 mun y papur |
Diwedd Blwyddyn 11 |
Gwyddoniaeth Gymhwysol (Gradd Unigol) Mae’r tair gwyddor (Bioleg, Cemeg a Ffiseg) yn cael eu dysgu ar y cyd mewn dwy uned wahanol. Golygir hyn bod Uned 1 a 2 yn cynnwys gwaith Cemeg, Bioleg a Ffiseg. Mae’r cwrs yma yn cynnig mwy o gyfleoedd i wneud gwaith ymarferol, gyda 30% o’r marc terfynol yn cael ei roi am asesiadau ymarferol. Cyfunir marc y pedwar uned er mwyn rhoi gradd derfynol.
Arholiad |
Pryd? |
Uned 1 – Gwyddoniaeth yn y byd modern 75 marc 1 awr 30 munud. |
Arholiad allanol ar ddiwedd Blwyddyn 10 |
Uned 2 – Gwyddoniaeth i gefnogi ein ffordd o fyw 75 marc 1 awr 30 munud. |
Arholiad allanol ar ddiwedd Blwyddyn 11 |
Uned 3 – Asesiad seiliedig ar dasg 60 marc |
Arholiad ymarferol Tachwedd - Rhagfyr Blwyddyn 11 |
Uned 4 – Asesiad ymarferol 30 marc |
Arholiad ymarferol Ionawr - Chwefror Blwyddyn 11 |