Mae rôl allweddol gan rieni a gofalwyr i'w gyflawni i sicrhau fod eu plant yn defnyddio technoleg mewn modd priodol a diogel. Bydd yr ysgol yn cymryd pob cyfle posib i helpu rhieni i ddeall y materion yma. Bydd rhieni a gofalwyr yn cael eu hannog i gefnogi'r ysgol wrth hyrwyddo arfer dda o e-ddiogelwch ac i ddilyn canllawiau ar y defnydd priodol o:
- Luniau neu fideo sydd wedi ei gymryd neu ei greu mewn digwyddiad ysgol
- Gyfryngau cymdeithasol.
- Galedwedd a meddalwedd sydd yn eiddo i’r ysgol ond at ddefnydd y plant
Bydd yr ysgol felly yn ceisio darparu gwybodaeth i rieni a gofalwyr yn y ffyrdd canlynol:
- Mewn llythyron ac ar wefan yr ysgol
- Sesiynau hyfforddiant ar gyfer rhieni a gofalwyr
- Gwybod am ddiwrnodau penodol yn y flwyddyn e.e. Diwrnod e-Ddiogelwch (ail ddydd Mawrth mis Chwefror)
- Cael eu cyfeirio at wefannau neu gyhoeddiadau priodol e.e.
- https://hwb.wales.gov.uk; www.saferinternet.org.uk;
- http://www.childnet.com/parents-and-carers