Y Ganolfan Les
Y Ganolfan Lles
Trydar: @yygbm
Rydym i gyd, ar adegau gwahanol yn ein bywyd angen rhywun i wrando, cefnogaeth emosiynol ac ychydig o gyngor. Rydym ni yma i helpu, gwrando ac rydym ar gael unrhyw bryd.
Rydym hefyd yn cynnig sesiynau lles penodol i rai disgyblion fel: sesiynau maethu, ELSA a sesiynau 1:1 wythnosol. Mae'r sesiynau hyn yn cynnig cefnogaeth ychwanegol i'r disgyblion hynny sydd, am amryw o resymau, yn profi anawsterau emosiynol.
Mae'r ganolfan ar agor pob amser egwyl a chinio i'r disgyblion hynny sydd yn chwilio am le tawel i gael sgwrs, ymlacio a bod yn greadigol.
Yn y dyfodol bydd prosiectau garddio cyffrous - mae croeso mawr i wirfoddolwyr!
Mae sesiwn galw heibio i rieni pob prynhawn Llun 2yh-3yh.
Rydym hefyd yn derbyn cefnogaeth gan asiantau allanol:
- Gwasnaeth Lles Ieuenctid
- Gwasanaeth Cynghori Barnados
Gwyliwch y fideo i glywed mwy gan ein disgyblion!