Disgyblaeth Cadarnhaol
Sail disgyblaeth effeithiol yw cydberthynas tair ochrog rhwng y disgybl, yr ysgol a rhieni.
Mae polisi disgyblaeth yr ysgol yn un cadarnhaol gyda’r amcan o sefydlu patrwm o hunan-ddisgyblaeth.
Hanfod disgyblaeth gadarnhaol yw:
• ymddygiad y disgyblion
• cynorthwyo’r disgyblion i weithio’n galed er mwyn cyrraedd safon uchel ac agwedd gadarnhaol tuag at:
- » Cymreictod
- » Presenoldeb
- » Prydlondeb
- » Gwisg ysgol
- » Gwaith cartref
- » Gwaith dosbarth
- » Gwaith cwrs
Gofynnwn am gydweithrediad llawn i rieni sicrhau bod eu plant:
- » Yn arddel safonau uchel o ymddygiad
- » Yn anelu at wneud eu gorau
- » Yn bresennol yn yr ysgol
- » Yn brydlon » Yn gwisgo’r wisg swyddogol
- » Yn gwneud gwaith cartref
Golyga hyn hefyd bod rhieni yn:
- arwyddo’r Dyddiadur Gwaith Cartref yn wythnosol
- mynychu’r Cyfarfodydd Rhieni i drafod gwaith eu plant.