Cwricwlwm
Ym mis Medi 2022, bydd adran gynradd Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn dechrau dilyn cwricwlwm newydd, sydd yn dilyn fframwaith Cwricwlwm i Gymru. Rydym wedi creu cwricwlwm YGBM yn dilyn trafodaethau gyda’n disgyblion, athrawon, rhieni a llywodraethwyr ac yn gyffrous iawn am gyflwyno’r cwricwlwm newydd, arloesol hwn. Bydd adran uwchradd yr ysgol yn dechrau dilyn cwricwlwm newydd ym mis Medi 2023.
Cwricwlwm yw hwn sydd yn dilyn egwyddorion Cwricwlwm i Gymru, ac wrth wraidd y cwricwlwm mae’r Pedwar Diben i Ddysgwyr, sydd yn sylfaen i greu dysgwyr llwyddiannus a dinasyddion cyfrifol. Mae’r cwrciwlwm wedi ei deilwra i greu:
- Unigolion iach, hyderus
- Cyfranwyr mentrus, creadigol
- Dysgwyr uchelgeisiol, galluog
- Dinasyddion egwyddorol, gwybodus
Er mwyn gwireddu ein cwricwlwm byddwn yn gweithio mewn chwech Maes Dysgu a Phrofiad:
- Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Mathemateg a Rhifedd
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Dyniaethau
- Iechyd a Lles
- Celfyddydau Mynegiannol
Gwelir mesuriadau cynnydd mewn ffurf disgrifiadau dysgu yn fframwaith Cwricwlwm i Gymru. Mi fydd athrawon yn ystyried y disgrifiadau ar hyd taith y disgybl drwy’r ysgol a bydd arferion asesu yn parhau i ddatblygu a gwreiddio trwy’r flwyddyn nesaf. Byddwn yn parhau i ddarparu adborth mewn gwersi ac ar waith y disgyblion er mwyn eu harwain i’r cam nesaf.
Mae cwricwlwm YGBM yn diwygio ac yn datblygu yn gyson, a bydd yn parhau i wneud wrth i ni werthuso yn gyson. Fe wnawn hynny drwy sgyrsiau gyda’n holl rhanddeiliaid er mwyn creu a chynnal cwricwlwm heriol a chyfoethog wedi ei atgyfnerthu gan addysgu a phrofiadau.