Diogelu Plant
Mae egwyddorion sylfaenol y Polisi Diogelu Plant yn sicrhau bod iechyd, diogelwch a lles ein holl blant o'r pwys pennaf i'r holl oedolion y maent yn gweithio yn ein hysgol. Mae gan ein plant/ pobl ifanc yr hawl i gael eu diogelu, beth bynnag fo eu hoedran, eu rhyw, eu hil, eu diwylliant, eu crefydd neu eu hanabledd. Mae ganddynt yr hawl i fod yn ddiogel yn ein hysgol. Mae gan yr holl staff gyfrifoldeb cyfartal dros weithredu ynghylch unrhyw amheuaeth neu ddatgeliad a allai awgrymu bod plentyn mewn perygl o ddioddef niwed. Mae deddfwriaeth yn sail ar gyfer y Polisi hwn a Pholisïau Diogelu ac Amddiffyn Plant Bro Morgannwg. Felly, mae'r canlynol yn cyd-fynd gyda Pholisi Bro Morgannwg:
Ein nodau yw:
- darparu amgylchedd diogel i blant/pobl ifanc ddysgu ynddo;
- pennu pa gamau y bydd modd i'r ysgol eu cymryd er mwyn sicrhau bod plant/pobl ifanc yn ddiogel yn y cartref yn ogystal â'r ysgol;
- codi ymwybyddiaeth yr holl staff o'r materion hyn, a diffinio'u rolau a'u cyfrifoldebau wrth adrodd am achosion posibl o gamdriniaeth;
- nodi plant/pobl ifanc y maent yn dioddef niwed sylweddol neu y maent yn debygol o ddioddef niwed sylweddol;
- sicrhau cyfathrebu effeithiol rhwng yr holl staff ynghylch materion yn ymwneud ag amddiffyn plant;
- nodi'r gweithdrefnau cywir ar gyfer y rhai y maent yn dod ar draws unrhyw fater yn ymwneud ag amddiffyn plant.
Nid yw ‘Diogelu' yn ymwneud â diogelu plant/pobl ifanc rhag niwed bwriadol yn unig. Mae'n cynnwys materion i ysgolion, gan gynnwys:
- iechyd a diogelwch disgyblion
- bwlio
- camdriniaeth hiliol
- aflonyddu a gwahaniaethu
- defnyddio ymyrraeth gorfforol / trin diogel
- bodloni anghenion disgyblion y mae ganddynt gyflyrau meddygol
- darparu cymorth cyntaf
- camddefnyddio alcohol a chyffuriau
- ymweliadau addysgol
- addysg rhyw a pherthnasoedd
- diogelwch ar y rhyngrwyd
- materion y gallent fod yn benodol i ardal neu boblogaeth leol e.e. gweithgarwch criwiau
- diogelwch ysgol
- lles dysgwyr ar leoliadau galwedigaethol estynedig
Yn yr ysgol, mae gennym bolisïau ar wahân y byddwn yn eu defnyddio er mwyn ceisio rhoi sylw i nifer o'r meysydd uchod. Mae gennym Bolisi Iechyd a Diogelwch sy'n rhoi sylw i nifer o'r meysydd gan gynnwys diogelwch, lles disgyblion ac ymweliadau addysgol; yn ogystal, mae gennym Bolisi Gwrth-fwlio ar wahân, Polisi Cydraddoldeb Hiliol a Pholisi eDdiogelwch.
Mae’r ysgol yn cydnabod ei chyfraniad tuag at Diogelu Plant a Phobl Ifanc yn llawn. Mae'n polisi yn cynnwys tair prif elfen:-
1. Atal trwy gyfrwng y cymorth addysgu a bugeiliol a gynigir i blant/pobl ifanc;
2. Gweithdrefnau y maent yn amlinellu'r disgwyliadau o bob parti yn eglur o fewn agenda Ddiogelu, er mwyn nodi ac adrodd achosion o gamdriniaeth, pryder a neu o fod yn agored i niwed, neu achosion y ceir amheuaeth o'r elfennau hyn. O ganlyniad i'n cyswllt gyda phlant/pobl ifanc o ddydd i ddydd, mae staff ysgol mewn sefyllfa dda i arsylwi arwyddion allanol camdriniaeth; a
3. Chymorth ar gyfer plant/pobl ifanc y gallent fod wedi cael eu cam-drin, y maent yn peri pryder neu'n agored i niwed.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i'r holl staff a'r gwirfoddolwyr sy'n gweithio yn yr ysgol. Yn ogystal, mae'r polisi hwn yn berthnasol i'r holl weithwyr achlysurol, gwirfoddolwyr, contractwyr a llywodraethwyr. Rhaid i'r holl oedolion ar safle'r ysgol fod yn ymwybodol o Bolisi Diogelu yr ysgol, oherwydd y gall unrhyw oedolyn, yn ogystal ag athrawon, gyflawni rôl y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer datgeliad gan blentyn/person ifanc.
Yn yr ysgol hon, y Pennaeth sy'n meddu ar y cyfrifoldeb cyffredinol dros Ddiogelu. Y Swyddog Uwch Penodol dros Ddiogelu yn y Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau yw David Davies (01446 709184).
Dyma enwau'r swyddogion diogelu allweddol yn yr ysgol:
- Y Person Uwch Dynodedig dros Amddiffyn Plant – Mrs Nia Rowlands
- Y Dirprwy Uwch Dynodedig dros Amddiffyn Plant – Mrs Laura Downey
- Y Person Uwch Dynodedig yn y Cynradd – Miss Ffion Williams
- Y Llywodraethwr Cyswllt dros Amddiffyn Plant – Mrs Anne-Louise Llywellyn-Morgan