Skip to content ↓

Grant Datblygu Disgyblion (GDD) 2022-23


Gwneir defnydd o’r GDD i gefnogi datblygiad a chynnydd disgyblion yn y meysydd canlynol:

  • Llythrennedd
  • Rhifedd
  • Lles
  • Presenoldeb

Mae’r arian a glustnodwyd i’r ysgol yn cyfrannu tuag at gyflogi unigolion yn y meysydd a nodwyd uchod wrth gefnogi disgyblion sydd angen y cymorth mwyaf.  Mae gwariant y GDD yn rhan o Gynllun Gwella’r Ysgol ar gyfer 2022-23 wrth ymateb i’r her gyson o godi safonau.  Dosrennir yr arian i grwpiau maeth 3-19 oed, i raglenni ymyrraeth amrywiol yn y sector cynradd ac uwchradd, gyda ffocws penodol ar ddisgyblion CA3 er mwyn sicrhau mynediad llawn i gwricwlwm yr ysgol.

Er enghraifft, mae rhan o’r grant eisoes wedi ei glustnodi eleni er mwyn prynu gliniadur ar gyfer  disgyblion sy’n derbyn PYD ym mlwyddyn 7.  Hefyd, bydd cyfraniad i leihau y faich ariannol i rieni/ gofalwyr y disgyblion sy’n derbyn PYD ym mlynyddoedd 5-9 ac yn dymuno mynychu cwrs iaith breswyl i wersyll yr Urdd Llangrannog (blwyddyn 5 a 7), Pendine (blwyddyn 8) neu Glan-llyn (blwyddyn 6 a 9).

Mae’r GDD hefyd yn caniatáu’r ysgol i ariannu grwpiau targed penodol er mwyn gwella eu lefelau cyrhaeddiad yn CA3, i wella eu perfformiad yn yr Asesiadau Personol ar draws y cyfnodau allweddol ac i sicrhau gwelliant arwyddocaol yn eu safonau llythrennedd.