Prydau Ysgol Am Ddim
Dim ond rhieni sy'n derbyn rhai budd-daliadau penodol sy'n gallu hawlio prydau ysgol am ddim ar gyfer eu plant.
Mae’r budd-daliadau perthnasol yn cynnwys:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cymorth Cyflogaeth
- Cymorth o dan Adran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
- Credyd Treth Plant (ond nid y Credyd Treth Gwaith) gydag incwm blynyddol (fel yr aseswyd gan Gyllid y Wlad) heb fod yn fwy na £16,190
- Elfen wedi ei warantu o Gredyd Pensiwn y Wlad
Noder: Mae plant sy'n derbyn Lwfans Incwm neu'r Lwfans Ceisio Gwaith eu hunain yn seiliedig ar incwm yn gallu hawlio prydau ysgol am ddim.
BETH YDYCH CHI’N DERBYN?
- Pryd y Dydd (Pryd poeth penodol, pwdin a diod)
- Neu rhywbeth arall gwerth £2.45
- Bydd £2.45 yn llwytho i fyny ar TAG disgyblion yn ddyddiol ond ni fydd y balans yn trosglwyddo i’r diwrnod canlynol
- Bydd unrhyw archeb amser egwyl yn cael ei dynnu o’r balans dyddiol
- Am resymau cyfrinachol ni fydd balans y disgybl yn ymddangos ar y til, dim ond enw’r disgybl. Gall y disgybl gwirio balans y TAG ar beiriant arian neu trwy ofyn aelod staff y gegin.
Os ydych yn credu efallai bod eich plentyn neu blant yn gymwys i dderbyn grant gwisg ysgol, yna bydd angen i chi lenwi ffurflen gais sydd ar gael gan benefits@bromorgannwg.gov.uk neu eich ysgol leol. Gellir cael gafael ar ffurflenni cais yn ystod ail hanner tymor yr haf ar gyfer y rhai sy’n symud i’r ysgol uwchradd y mis Medi canlynol.