Adran:
Miss N Tudor - Pennaeth Adran
Mrs R Lloyd
I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk
Trydar: @YgbmDrama
“Mae gwersi drama Chweched y Fro wedi bod yn fuddiol iawn i mi. Wrth fod yn ran o gynhyrchiadau’r ysgol megis y Sioeau Cerdd a’r Cyngherddau Nadolig dwi wedi ennyn sgiliau a phrofiadau fydd yn aros gyda mi am byth. Mae’r Adran Ddrama yn cynnig profiadau a phosibiliadau lu i ni fel disgyblion y Chweched a dwi wedi elwa’n fawr o hynny mewn sawl ffordd. Mae’r athrawon bob amser wedi bod yn gefnogol ac wedi sicrhau ein bod ni’n gweithio at ein llawn potensial a dwi’n ddiolchgar iawn am hynny. Rydw i wedi mwynhau cael bod yn rhan o gymdeithas yr Adran Ddrama yn Ysgol Y Fro ac yn gobeithio bydd disgyblion y dyfodol yn cael yr un boddhad.”
Begw Rowlands
Gweithgareddau Ychwanegol:
- Tripiau i'r Theatr
- Clwb Drama
CA3 (Blwyddyn 7-9)
Blwyddyn |
Tymor |
Themau |
7 |
Hydref |
Pwy ydw i? Pantomeim |
|
Gwanwyn |
Yn gaeth yn y gem |
|
Haf |
Breuddwyd Noswyl Ifan - Shaespeare |
8 |
Hydref |
Opera Sebon |
|
Gwanwyn |
Theatr Grotowski |
|
Haf |
Theatr mewn Addysg |
9 |
Hydref |
Trychineb Hillsborough – mewn arddull Theatr mewn Addysg |
|
Gwanwyn |
Drama’r Drosedd |
|
Haf |
Blasu’r Cyfryngau |
CA4 (Blwyddyn 10-11)
Amcanion y Cwrs
Bydd dilyn cwrs Drama yn datblygu’r elfennau canlynol yn yr ymgeiswyr:
a) Y gallu i ddeall profiadau sylfaenol o gymryd rhan, a llunio rhan, trwy waith grŵp.
b) Dealltwriaeth o’r elfennau hynny sy’n cyfrannu tuag at effaith gyfan cyflwyniad dramatig.
c) Gwerthfawrogiad o lenyddiaeth ddramatig fel deunydd crai sy’n sail i berfformiad.
ch) Mwynhad a gwerthfawrogiad gwybodus o gyflwyniadau dramatig yn y Theatr a chyfryngau eraill
Beth a ddisgwylir yn yr arholiad
Disgwylir i’r ymgeiswyr arddangos eu gallu i:
a) Gydweithio ag eraill i gyflwyno golygfa o ddrama
b) Pwyso a mesur eu gwaith ymarferol eu hunain ynghyd â gwaith ymarferol disgyblion eraill
c) Cynnig ymateb personol i gyflwyniadau dramatig
ch) Deall nodweddion dramatig y dramâu a ddewisir i’w hastudio
Cynnwys:
Y mae’r maes llafur Drama yn cynnwys amrediad o waith ymarferol ac astudiaeth o destunau drama dewisedig. Yn ychwanegol at hynny, y mae ymweld â theatrau a chymryd diddordeb byw ym myd y Ddrama yn angenrheidiol i ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad o berfformiad.
Asesiad
Uned 1 : Dyfeisio Theatr (40%, 60 marc)
Wedi’i asesu’n fewnol a’i safoni’n allanol gan CBAC Gall dysgwyr berfformio neu ddylunio;
• Perfformiad wedi’i ddyfeisio yn seiliedig ar ysgogiad a bennir gan CBAC (5 - 14 munud) gan ddefnyddio technegau ymarferwr theatr neu genre
• Portffolio o dystiolaeth ategol (750 – 900 o eiriau)
• Gwerthusiad (1 awr 30 munud)
Uned 2 : Perfformiad o Destun (20%, 60 marc)
Asesiad Allanol: Wedi’i asesu’n allanol gan arholwr yn ymweld rhwng mis Chwefror a Mai
Gall dysgwyr berfformio neu ddylunio;
Dau ddetholiad o’r un testun wedi’i roi at ei gilydd fel un perfformiad (5 - 14 munud)
Uned 3 : Dehongli Theatr (40%, 60 marc)
Arholiad ysgrifenedig 1 awr 30 munud
Un testun gosod o ddewis o bump Adolygiad o Theatr fyw AA1 (20%)
Creu a datblygu syniadau er mwyn cyfleu ystyr ar gyfer perfformiad theatraidd AA2 (30%)
Cymhwyso sgiliau theatraidd i wireddu bwriadau artistig mewn perfformiad byw AA3 (30%) Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o sut mae Drama a Theatr yn cael eu datblygu a’u perfformio AA4 (20%)
Dadansoddi a gwerthuso eu gwaith eu hunain a gwaith pobl eraill
CA5 (Blwyddyn 12-13)
Anghenion Mynediad:
Er byddai TGAU Drama yn fantais, nid yw’n angenrheidiol. Serch hynny dylid cael profiadau perfformio tu fewn a thu allan i’r ysgol ynghyd â diddordeb byw yn y Theatr. Bydd disgwyl eich bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol yr Adran ac yn mynychu’r Theatr yn rheolaidd.
Beth yw Drama?
Mae Drama ac Astudiaethau Theatr yn bwnc bywiog ac amrywiol. Fe gewch gyfle i ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau ym maes Drama a’r Theatr. Byddwch yn astudio a pherfformio dramâu, creu a pherfformio gwaith eich hunain, dadansoddi ac ystyried perfformiadau a dramâu yn feirniadol. Prif ffocws y cwrs yw gwella eich sgiliau perfformio er mwyn i chi gael cyfle i fynd ymlaen i astudio mewn Coleg Drama neu Brifysgol.
Beth fyddaf yn dysgu o fewn Drama?
Cewch ddewis actio neu sgil dechnegol. Unedau ymarferol sy’n seiliedig ar destunau arbennig. Byddwch yn astudio’r ddrama gyfan ac yn dethol golygfa briodol ar gyfer y perfformiad. Yn ogystal, byddwch yn creu darn dyfeisio ar thema arbennig, yn sgriptio, hel syniadau, creu cymeriadau ac yn arbrofi i greu darn o theatr gyffrous. Bydd y perfformiad yn digwydd o flaen cynulleidfa. Bydd rhaid defnyddio amrywiaeth o dechnegau theatr er mwyn creu perfformiadau arbrofol.
Cynnwys y cwrs:
Uned 1 – Gweithdy Theatr
Uned 2 – Testun mewn Theatr
Uned 3 – Testun ar Waith
Uned 4 – Testun mewn Perfformiad
Gyrfaoedd posib: Actio | Gyrfa tu ôl i’r llenni, megis, coluro, gwisg, sain, dylunio set, goleuo, rheolwr llwyfan a chyfarwyddo | Theatr a theledu | Addysg | Y Gyfraith | Newyddion a’r wasg | Cyflwyno | Gohebu | Cyfarwyddwr Theatr a theledu | Therapydd Llefaredd | Gweithiwr cymdeithasol
Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs :
https://www.cbac.co.uk/qualifications/drama/r-drama-gce-asa-from-2016/index.html