Dylunio a Thechnoleg
Adran:
Mr M Davies
Mrs S Williams
Mr D Edwards
Mrs L Bowen
I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk
Gweithgareddau Ychwanegol:
- Clwb amser cinio
- CogUrdd
“Mae dewis Dylunio Cynnyrch yn un buddiol iawn am eich dyfodol. Mae’r cwrs yn hybu creadigrwydd a gwaith angerddol iawn. Dewisais Ddylunio Cynnyrch i gael siawns i arbrofi gyda dulliau gwahanol o weithio. Mae amryw o waith ysgrifennu, dylunio cyfrifiadurol, datrys problemau a gweithio gyda’ch dwylo. Yn ogystal mae cyfleoedd i ymweld â diwydiant a gweld prosesau creu modern.”
CA3 (Blwyddyn 7-9)
Blwyddyn |
Tymor |
Themau |
7 |
Hydref |
Prosiect Taclusydd Desg |
|
Gwanwyn |
Deinosoriaid CAD/CAM |
|
Haf |
Sgiliau Graffeg/Meddalwedd ddylunio |
8 |
Hydref |
Golau Nos |
|
Gwanwyn |
Cadw MI Gei |
|
Haf |
Graffeg a Sgiliau CAD |
9 |
Hydref |
Mwyhadur di-bwêr |
|
Gwanwyn |
Daliwr Clustffonau |
|
Haf |
Sgiliau Bwyd - Cyfleus, Cyflym a Chytbwys |
CA4 (Blwyddyn 10-11)
Nod
Mae’r cymhwyster TGAU hwn mewn Dylunio a Thechnoleg yn cynnig cyfle unigryw yn y cwricwlwm i ddysgwyr adnabod a datrys problemau go iawn trwy ddylunio a gwneud cynhyrchion. Trwy astudio TGAU Dylunio a Thechnoleg, bydd dysgwyr yn barod i gymryd rhan yn hyderus a llwyddiannus mewn byd sy’n fwyfwy technolegol. Fe fyddwch yn gweithio gydag amrywiaeth eang o ddeunyddiau er mwyn dylunio a gwneud cynhyrchion ymarferol sy’n cwrdd ag anghenion sefyllfaoedd dylunio realistig.
Dyma gyfle i ddatblygu’r wybodaeth a dealltwriaeth i’ch galluogi i ddilyn gyrfa fel dylunydd neu beiriannydd. A ydych chi’n mwynhau :
• creu eich cynhyrchion eich hunan?
• dylunio o’r syniad gwreiddiol hyd at ddatrysiad terfynol?
• gweithio gyda meddalwedd dylunio fel ‘Adobe Illustrator’, ‘Google Sketch Up’ a ‘2D Design’?
• gweithio gydag offer dylunio, offer llaw, peiriannau ac offer cyfrifiadurol?
Os felly, Dylunio a Thechnoleg yw’r dewis i chi!
Manylion y cwrs
Mae’r fanyleb yn galluogi dysgwyr i weithio’n greadigol wrth ddylunio a gwneud, ac i weithredu arbenigedd technegol ac ymarferol.
Yn ystod Blwyddyn 10 fe fyddwch yn mynd i’r afael â chyfres o brosiectau a thasgau byr er mwyn estyn eich dealltwriaeth a phrofiad ym mhrif-feysydd y cwrs, sef:
• dylunio a gwneud cynhyrchion graffigol a thridimensiwm
• gweithio gydag amrywiaeth eang o ddeunyddiau fel plastigion, metel a phren
• dylunio â chymorth cyfrifiadaur a gweithgynhyrchu â chymorth cyfrifiadur.
Fe fyddwch yn dylunio a gwneud eich cynhyrchion eich hunan yn ogystal â defnyddio CAD/CAM er mwyn modelu a gweithgynhyrchu cynhyrchion o safon. Fe fyddwch yn ymestyn eich gwybodaeth a gallu i ddefnyddio meddalwedd bwrpasol fel ‘Adobe Illustrator’, ‘Google Sketch Up’ a ‘2D Design’.
Y dasg asesu Deunyddiau Gwrthiannol fydd prif ffocws blwyddyn 11, sef cynnyrch ymarferol a phortffolio dylunio i’w gyflwyno ar bapur neu drwy ddefnydd o Dechnoleg Gwybodaeth. Gall themau addas ar gyfer datblygu cynnyrch gynnwys graffigwaith, gemwaith, dyluniadau dodrefn, gemau addysgiadol, cymhorthion ar gyfer yr anabl neu systemau storio.
Asesu
Bydd y cynllun asesu yn cynnwys dwy gydran:
Uned 1: Dylunio a Thechnoleg yn yr 21ain Ganrif sef arholiad ysgrifenedig 2 awr o hyd, sydd yn 50% o’r cymhwyster.
Cymysgedd o gwestiynau atebion byr, strwythuredig ac ysgrifennu estynedig sy’n asesu gwybodaeth a dealltwriaeth ymgeiswyr am ddylunio cynnyrch.
Uned 2: Tasg Dylunio a Gwneud estynedig i’w cwblhau o fewn tua 35 awr sydd hefyd yn 50% o’r cymhwyster.
CA5 (Blwyddyn 12-13)
Anghenion Mynediad:
Disgwylir i ddisgyblion sydd yn dewis y cwrs ddangos dychymyg, dyfeisgarwch a pharodrwydd i weithio’n annibynnol. Gan amlaf y bydd disgyblion fod wedi ennill gradd B neu’n uwch mewn Dylunio a Thechnoleg (Cynhyrchion Graffig neu Ddeunyddiau Gwrthiannol). Fe fydd addasrwydd disgyblion nad ydynt wedi dilyn y cwrs TGAU (ond sydd wedi ennill o leiaf 5 TGAU gradd B neu’n uwch) yn cael ei ystyried ar lefel unigol.
Beth yw Dylunio Cynnyrch?
Mae cwrs mewn Dylunio a Thechnoleg yn cynnig cyfle unigryw yn y cwricwlwm i chi ddarganfod a datrys problemau go iawn trwy ddylunio a gwneud cynhyrchion mewn amrywiaeth o eang o gyd-destunau yn ymwneud â’ch diddordebau personol neu’ch dewis o yrfa.
Beth fyddaf yn dysgu o fewn Dylunio Cynnyrch?
Mae Dylunio a Thechnoleg yn bwnc ysbrydoledig, trwyadl ac ymarferol. Mae’r cwrs yn annog dysgwyr i ddefnyddio creadigrwydd a dychymyg wrth ddefnyddio prosesu dylunio i ddatblygu ac addasu dyluniadau, ac i ddylunio a gwneud prototeipiau sy’n datrys problemau’r byd real, ystyried eu hanghenion, dymuniadau, dyheadau a gwerthoedd eu hunain ac eraill.
Cynnwys y cwrs:
Mae’r arholiad yn cynnwys cymysgedd o gwestiynau ysgrifennu strwythuredig ac estynedig sy’n asesu gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o:
• egwyddorion technegol
• egwyddorion dylunio a gwneud ynghyd â’u gallu i:
• ddadansoddi a gwerthuso penderfyniadau dylunio a materion ehangach mewn dylunio a thechnoleg.
Egwyddorion technegol craidd – Gweithgynhyrchu, Arloesedd, Addasrwydd at ddiben, Dylunio digidol a Gweithgynhyrchu digidol, Arferion gweithio’n ddiogel.
Egwyddorion technegol manwl – nodweddion a phriodweddau gweithiol deunyddiau, gorffeniad arwyneb, deunyddiau smart a modern, prosesau gweithgynhyrchu.
Egwyddorion craidd dylunio a gwneud – Theori dylunio, mudiadau dylunio hanesyddol. Ffactorau cymdeithasol, moesol a moesegol mewn dylunio cynnyrch.
Dadansoddi a gwerthuso. Offer arbenigll, prosesau ac offer.
Gyrfaoedd posib
Targedir y cwrs at ddisgyblion sydd yn bwriadu dilyn cyrsiau Addysg Bellach neu yrfa mewn Dylunio a Thechnoleg neu feysydd cysylltiedig fel Dylunio Cynnyrch, Peirianneg, Gweithgynhyrchu, Dylunio Graffigol, Dylunio Mewnol, Tecstilau neu Bensaernïaeth.
Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:
https://www.wjec.co.uk/qualifications/design-and-technology/r-design-and-technology-gce-2017/