Llywodraethwyr
Cadeirydd: Mr Robert Evans
Dirprwy: Mr Geraint Evans
Clerc y llywodraethwyr: Mrs Charlotte Dechamps Evans
- Pennaeth
- 6 Rhiant Lywodraethwr
- 2 Gynrychiolydd Athrawon
- 1 Cynrychiolydd Staff Cynnal
- 6 Cynrychiolydd yr AALl
- 5 Cynrychiolydd Cyfetholedig
Swyddogaeth | Enw | Tymor yn dod i ben |
---|---|---|
Pennaeth | Rhys Angell Jones | |
Rhiant Lywodraethwr | Mr John-Paul Barker | 06/10/24 |
Mrs Sally-ann Efstathiou | 06/10/24 | |
Mr Rhodri Jones | 06/10/24 | |
Mr Rhodri Lewis | 06/10/24 | |
Mrs Cathy Williams | 06/10/24 | |
Cynrychiolwyr Athrawon | Miss Ffion Williams | 08/09/25 |
Miss Stephanie Johns | 09/09/26 | |
Cynrychiolwr y Staff Cynorthwyol | Mrs Lauren Tabernacle | 22/10/25 |
Cynrychiolwyr yr AALl | Mr Robert Evans | 18/10/24 |
Mr Geraint Evans | 18/10/24 | |
Mr Dulyn Griffith | 18/10/24 | |
Mrs Maxine Griffiths | 15/01/23 | |
Mr Huw Llewellyn-Morgan | 18/10/24 | |
Cllr Mr Steffan Wiliam | 18/10/24 | |
Cynrychiolwyr Cyfetholedig | Mr Carl Brown | 10/06/25 |
Mrs Anne-Louise Llewellyn-Morgan | 01/09/24 | |
Dr Paul Orders | 01/09/24 | |
Mr Warren Scott | 01/09/24 | |
Is-Bwyllgorau
PWLLGOR YMRWYMIAD BUDD-DEILIAD
Pwyllgor Ymrwymiad Rhanddeiliad
Aelodau
Sally-ann Efstathiou (Cadeirydd)
Rhys Angell Jones, Nia Rowlands, Warren Scott, Heledd Lewis, Ffion Williams, Maxine Griffiths, Lauren Taebrnacle, Cathy Williams, Prif Sywddogion.
Charlotte Dechamps Evans (Clerc)
Diben
Sicrhau dull cydlynol o ymgysylltu â rhanddeiliaid o fewn yr ysgol a'r gymuned ehangach.
Sicrhau y caiff llwyddiant yr ysgol ei hyrwyddo ymhlith rhanddeiliaid allweddol ac o fewn y gymuned ehangach.
Galluogi gwell cynllunio a pholisïau, prosiectau, rhaglenni a gwasanaethau mwy hyddysg.
Gosod y gymuned ehangach wrth wraidd ethos yr ysgol.
Cydlynu cydweithio, partneriaethau a rhannu gwybodaeth effeithiol.
Cyfleu ymrwymiad yr ysgol i ymgysylltu â'i rhanddeiliaid.
Cyfansoddiad
Rhwng tri ac wyth aelod o'r corff llywodraethu â hawliau pleidleisio.
Cworwm
Ni fydd y cworwm ar gyfer cyfarfod o'r pwyllgor yn llai na thri aelod â hawliau pleidleisio.
Cylch Gorchwyl
- Nodi rhanddeiliaid allweddol y dylai'r ysgol a'r corff llywodraethu ymgysylltu â hwy.
- Meithrin a chynnal cydberthnasau adeiladol â rhanddeiliaid allweddol.
- Ymgynghori a chydweithio â rhanddeiliaid allweddol, ynghyd â'u hysbysu a'u grymuso, er mwyn hyrwyddo buddiannau gorau'r ysgol.
- Marchnata'r ysgol yn rhagweithiol mewn cydweithrediad â'r UDRh.
- Cydgysylltu â'r Gymdeithas Rhieni / Athrawon yn benodol a meithrin datblygiad â hwy.
- Darparu gwell ymwybyddiaeth o bryderon rhanddeiliad a thynnu sylw'r corff llywodraethu at y pryderon hynny.
- Nodi cyfleoedd i gynnwys rhanddeiliaid yn y gwaith o ddatblygu a chyflwyno polisïau, prosiectau, rhaglenni a gwasanaethau.
- Cydnabod rhybuddion cynnar ynghylch problemau posib a rhoi gwybod amdanynt.
- Cynorthwyo'r UDRh a'r corff llywodraethu ym maes strategaethau rheoli risg.
- Datblygu cydberthnasau hirdymor a llawn ymddiriedaeth.
Cofnodion
Dylid cadw cofnod ysgrifenedig o gyfarfod y pwyllgor gan gynnwys manylion y rhai sy’n bresennol. Dylid cyflwyno'r cofnodion i gyfarfod llawn nesaf y corff llywodraethu drwy Glerc y corff llywodraethu.
Cynnal Cyfarfodydd
Caiff cyfarfod ei gynnal ar gais y Cadeirydd neu'r Pennaeth yn ôl yr angen.
Pleidleisio
Yn achos pleidlais gyfartal, bydd gan gadeirydd y pwyllgor ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
PWYLLGOR CWRICWLWM A SAFONAU
Pwyllgor Cwricwlwm a Safonau
Aelodau
Cathy Williams (Cadeirydd)
Rhys Angell Jones, Catrin Bennett, Dulyn Griffith, Warren Scott, Ffion Williams, Rhodri Jones, Rhodri Lewis.
Sian Jones (Clerc)
Pwrpas
Trafod a chytuno ar bolisïau sy’n anelu at sicrhau y caiff ethos ysgol ei greu, sy’n bodloni amcanion yr ysgol yn unol â’r hyn a amlinellir yn natganiad cenhadaeth yr ysgol.
Trafod a chytuno ar bolisïau a strategaethau sy’n galluogi’r ysgol i fonitro perfformiad disgyblion yn effeithiol a chynllunio ar gyfer gwireddu potensial pob disgybl unigol.
Trafod a chytuno ar bolisïau gyda’r nod o wella safonau a chaniatáu i ystyriaeth fanylach gael ei roi i’r ffordd orau o gyflawni cyfrifoldeb y corff llywodraethol i gynnal polisi cwricwlwm perthnasol achyfredol.
Gwneud sylwadau ac argymhellion addas ar faterion cwricwlwm i’r corff llywodraethol yn rheolaidd, gan ystyried unrhyw gynrychioliadau gan y gymuned leol ac mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth.
Cyfansoddiad
Rhwng tri ac wyth aelod o’r corff llywodraethol, gyda hawliau i bleidleisio.
Gallai’r pwyllgor hwn benderfynu, yn achlysurol, caniatáu pobl ychwanegol i fynychu cyfarfodydd lle y caiff eitemau busnes penodol eu hystyried. Ni fydd gan y bobl hyn, fodd bynnag, yr hawl i bleidleisio.
Cworwm
Ni all y cworwm ar gyfer cyfarfod o’r pwyllgor gynnwys llai na thri aelod sydd â hawl pleidleisio.
Meini Cyfair y Pwyllgor
1. Cynllunio, monitro ac adolygu trefniadau academaidd a bugeiliol yr ysgol er mwyn sicrhau y bydd yr ysgol yn cynnal ac yn cyflwyno cwricwlwm eang a chytbwys yn unol â nodau’r ysgol a gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol.
2. Ystyried datganiad polisi cwricwlwm AALl a gwneud argymhellion i’r corff llywodraethol ar fabwysiadu’r rhain ar gyfer yr ysgol, gydag addasiadau neu heb addasiadau.
3. Paratoi datganiad ffurfiol yr ysgol o’i nodau cwricwlwm, er mwyn eu cynnwys yn yr adroddiad blynyddol ar gyfer rhieni ac ym mhrosbectws yr ysgol, a sicrhau y caiff y datganiad ei gyhoeddi.
4. Cynghori’r corff llywodraethol ar faterion yn ymwneud â’r cwricwlwm gan gynnwys gweithredu’r Cwricwlwm Cenedlaethol.
5. Gwneud argymhellion ar gyfer diweddaru cynllun datblygu’r ysgol yn rheolaidd, gan gynnwys gosod targedau perfformiad.
6. Monitro effeithiolrwydd holl bolisïau cwricwlwm yr ysgol a gwneud argymhellion i’r corff llywodraethol llawn am newidiadau lle y bônt yn briodol, gan gynnwys:-
a) polisi’r ysgol ar addysg rhyw
b) polisi’r ysgol ar godi tâl a chodi tâl am weithgareddau
c) polisi’r ysgol ar anghenion addysgol arbennig
ch) trefniadau ar gyfer gweithredoedd dyddiol o addoli ar y cyd a darparu addysg grefyddol
7. Derbyn adroddiadau a gwneud cynigion ar y cwricwlwm ac anghenion addysgu a dysgu’r ysgol, gan gynnwys trefniadau ar gyfer arholiadau ac asesu cynnydd disgyblion, ac ar gyfer darparu gwybodaeth ar gyrhaeddiad a chynnydd.
8. Cysylltu â phwyllgorau eraill a derbyn adroddiadau ganddynt, fel y bo’n briodol, a gwneud argymhellion i’r pwyllgorau hynny ar faterion sy’n ymwneud â’r cwricwlwm a ystyrir ganddynt.
9. Sefydlu cysylltiad agos ac effeithiol ag aelodau o Uwch Dîm Arweinyddiaeth yr ysgol ac athrawon a staff cynorthwyo.
10. Ystyried unrhyw fater sy’n ymwneud â’r cwricwlwm a gyfeirir ato gan y corff llywodraethol a rhoi cyngor arno.
Swyddogaethau a gedwir gan y corff llywodraethol
Mae’n rhaid i’r corff llywodraethol:-
1. Ystyried Datganiad Polisi’r AALl ac addasiadau ohono os yw’n briodol.
2. Sicrhau y caiff y Cwricwlwm Cenedlaethol ei weithredu.
3. Penderfynu pa fath o addysg rhyw a ddarperir, a, lle y’i darperir, sicrhau y telir sylw dyledus i faterion moesol ac i werthoedd bywyd teuluol.
4. Sicrhau y darperir addysg grefyddol ac addoli ar y cyd a sicrhau y gwneir trefniadau digonol.
5. Penderfynu amserau sesiynau’r ysgol.
6. Gweithredu er mwyn gwahardd gwthio syniadau gwleidyddol, a sicrhau y caiff materion gwleidyddol eu trin mewn ffordd gytbwys.
Cyfrifoldebau’r Pennaeth
1. Ffurfio cynigion ac argymhellion manwl ar anghenion y cwricwlwm a’r ffordd orau o’u cyflenwi.
2. Cyfrifoldeb dyddiol am yr holl faterion sy’n ymwneud â’r cwricwlwm ac am benderfynu a threfnu pa ddulliau i’w defnyddio ar gyfer cyflenwi a monitro’r cwricwlwm, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer addysg grefyddol ac addoli ar y cyd, yn amodol ar eu cysondeb â pholisïau’r corff llywodraethol a chydag anghenion statudol.
3. Cyhoeddi datganiadau polisi cwricwlwm y corff llywodraethol.
4. Penderfynu pa ddisgyblion a all gael eu hesgusodi yn ffurfiol o’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn llwyr neu’n rhannol.
5. Sicrhau bod staff yn ymwybodol o anghenion addysgol arbennig disgyblion unigol a bod yr AALl yn cael eu hysbysu’n ffurfiol ohonynt, a bod darpariaeth briodol yn diwallu’r anghenion hyn.
6. Cyhoeddi gweithdrefn gwyn y cwricwlwm ac ystyried unrhyw gwynion a dderbynnir yn ystod y cyfnod priodol.
7. Darparu adroddiadau, gwybodaeth a chyngor proffesiynol i’r Pwyllgor Cwricwlwm sy’n ymwneud â gweithredu neu ddatblygu’r cwricwlwm yn rheolaidd, a chadw mewn cysylltiad rheolaidd â chadeirydd y pwyllgor, yn arbennig os yw’n ymwneud â mater o arwyddocad arbennig neu fater a allai o bosibl fod yn un dadleuol.
Penodi Cadeirydd a Chlerc
Penderfyniad y pwyllgor fydd penodi cadeirydd y pwyllgor a’r clerc a dylid adolygu hyn yn ystod cyfarfod cyntaf y pwyllgor o’r flwyddyn ysgol.
Cofnodion
Dylid cadw cofnod ysgrifenedig o gyfarfod y pwyllgor gan gynnwys manylion o’r rhai sy’n bresennol. Dylid cyflwyno’r cofnodion i gyfarfod llawn nesaf y corff llywodraethol trwy glerc y corff llywodraethol.
Cyfarfodydd sy’n ymgynnull
Bydd y pwyllgor yn cyfarfod yn ôl yr angen er mwyn cyflawni ei gyfrifoldebau ac o leiaf unwaith bob tymor ysgol.
Bydd y pwyllgor yn ymgynnull ar gais y cadeirydd, y Pennaeth, neu unrhyw ddau o aelodau’r pwyllgor.
Pleidleisio
Mewn achos lle ceir yr un faint o bleidleisiau, bydd gan gadeirydd y pwyllgor ail bleidlais neu’r bleidlais ddyfarnu.
Penderfyniadau brys
Mewn achos lle bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau brys sy’n wirioneddol ddilys rhwng cyfarfodydd ar faterion sy’n disgyn o fewn cylch gwaith y pwyllgor, gall cadeirydd y llywodraethwyr (mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth, cadeirydd y pwyllgor a llywodraethwyr eraill o’r fath a ystyrir i fod yn briodol) gymryd camau priodol ar ran y pwyllgor. Eglurir y penderfyniad y daethpwyd iddo a’r rheswm dros y brys yn llawn yn ystod cyfarfod nesaf y pwyllgor a’r corff llywodraethol.
PWYLLGOR CYLLID AC ADNODDAU
Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau
Aelodau
Huw Llewellyn-Morgan, (Cadeirydd),
Rhys Angell Jones, Steffan Wiliam, Dulyn Griffith, Geraint Evans, Rob Evans, Cathy Williams, John-Paul Barker
Charlotte Dechamps Evans (Clerc)
Pwrpas
Galluogi ystyriaeth fanylach i gael ei roi i’r ffordd orau o gyflawni cyfrifoldebau’r corff llywodraethol er mwyn sicrhau y caiff cyllid ac adnoddau’r ysgol eu rheoli’n gall, gan gynnwys cynllunio, monitro a gonestrwydd cywir.
Galluogi ystyriaeth fanylach i gael ei roi i’r ffordd orau o gyflawni cyfrifoldebau’r corff llywodraethol o ran ymarfer y pwerau hynny sy’n perthyn i’r cyflogwr a gaiff eu dirprwyo, ar ran yr AALl, i’r corff llywodraethol.
Gwneud argymhellion priodol ar faterion staffio i’r corff llywodraethol yn rheolaidd.
Galluogi ystyriaeth fanylach i gael ei roi i’r ffordd orau o gyflawni cyfrifoldebau’r corff llywodraethol er mwyn cynnal a datblygu adeiladau a thir yr ysgol a gwneud argymhellion priodol.
Cyfansoddiad
Rhwng tri ac wyth aelod o’r corff llywodraethol, gyda hawliau i bleidleisio.
Gall y pwyllgor hwn benderfynu, yn achlysurol, ganiatáu pobl ychwanegol i fynychu cyfarfodydd lle y caiff eitemau busnes penodol eu hystyried. Ni fydd gan y bobl hyn, fodd bynnag, yr hawl i bleidleisio. (Awgrymir bod yr aelodau na all bleidleisio yn cynnwys hyd at ddau berson gyda chefndir ariannol priodol).
Cworwm
Ni all y cworwm ar gyfer cyfarfod o’r pwyllgor gynnwys llai na thri aelod sydd â hawl pleidleisio.
Meini Cyfair y pwyllgor
1. Paratoi cynllun ac opsiynau cyllidebu bob blwyddyn, gan gynnwys defnyddio unrhyw gronfa neu weddillion sydd wrth gefn, mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth, i’w ystyried gan y corff llywodraethol, gan sicrhau fod yr argymhellion yn cyd-fynd â chynllun datblygu’r ysgol a pharatoi’r datganiad ariannol i ffurfio rhan o adroddiad blynyddol y corff llywodraethol i rieni.
2. Monitro ac adolygu gwariant a sicrhau defnydd effeithiol o adnoddau gan gydymffurfio â chyllideb yr ysgol, gan ddwyn unrhyw faterion o bwys i sylw’r corff llywodraethol.
3. Cyfrannu at ffurfio cynllun datblygu’r ysgol, gan ystyried blaenoriaethau a cheisiadau ariannol, mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth, sy’n cydymffurfio â nodau ac amcanion yr ysgol y cytunwyd arnynt.
4. Derbyn adroddiadau a chynigion ar anghenion ariannol yr ysgol a’i hangen am adnoddau, yn o gystal â gofynion am eitemau penodol o wariant a gwneud argymhellion i’r corff llywodraethol.
5. Gwneud argymhellion ar bolisi’r corff llywodraethol ar gyfer talu a rhoi cydnabyddiaeth i bob categori o staff a gyflogir i weithio yn yr ysgol.
6. Derbyn adroddiadau a chynigion a gwneud argymhellion, mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth, ar faint, strwythur, cymysgedd a chyfansoddiad sefydliad staffio’r ysgol, mewn cydymffurfiad â’r blaenoriaethau a nodi’r yng nghynllun datblygu’r ysgol, polisi’r cwricwlwm ac adnoddau cyllidebu a sefydlwyd gan y corff llywodraethol.
7. Ystyried a gwneud argymhellion ar yr holl faterion sy’n ymwneud ag anghenion adeiladau a thir yr ysgol mewn ymgynghoriaeth â’r Pennaeth.
8. Datblygu a monitro’r gwaith o weithredu Polisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol er mwyn diogelu iechyd a diogelwch cyflogwyr, disgyblion a phobl sy’n ymweld â’r ysgol, a gwneud argymhellion i’r corff llywodraethol.
Cyfrifoldebau’r Pennaeth
1. Ffurfio cynigion ac argymhellion cychwynnol ar gyfer materion sy’n ymwneud â Chyllid, Staffio ac Adeiladau.
2. Cyfrifoldeb dyddiol am faterion sy’n ymwneud â Chyllid, Staffio ac Adeiladau yn unol â pholisïau a blaenoriaethau’r corff llywodraethol, ar yr amod y gellir bodloni unrhyw wariant o’r gyllideb y cytunwyd arni. Mae hyn yn cynnwys sefydlu penodiadau dros dro neu byrdymor hyd at flwyddyn lle y bo’n angenrheidiol.
3. Darparu adroddiadau, gwybodaeth a chyngor proffesiynol yn rheolaidd o leiaf unwaith y tymor.
4. Cadw mewn cysylltiad rheolaidd â chadeirydd yr is-bwyllgor yn enwedig os yw’n ymwneud â materion o arwyddocad arbennig neu faterion a allai fod yn ddadleuol.
Swyddogaethau a gedwir gan y Corff Llywodraethol
Mae’n rhaid i’r corff llywodraethol gymeradwyo, neu beidio â chymeradwyo argymhellion yr Is-bwyllgor
Penodi Cadeirydd a Chlerc
Penderfyniad y pwyllgor fydd penodi cadeirydd y pwyllgor a’r clerc a dylid adolygu hyn yn ystod cyfarfod cyntaf y pwyllgor o’r flwyddyn ysgol.
Cofnodion
Dylid cadw cofnod ysgrifenedig o gyfarfod y pwyllgor gan gynnwys manylion o’r rhai sy’n bresennol. Dylid cyflwyno’r cofnodion i gyfarfod llawn nesaf y corff llywodraethol trwy glerc y corff llywodraethol.
Cyfarfodydd sy’n ymgynnull
Bydd y pwyllgor yn cyfarfod yn ôl angen er mwyn cyflawni ei gyfrifoldebau ac o leiaf unwaith bob tymor ysgol.
Bydd y pwyllgor yn ymgynnull ar gais y cadeirydd, y Pennaeth, neu unrhyw ddau o aelodau’r pwyllgor.
Pleidleisio
Mewn achos lle ceir yr un faint o bleidleisiau, bydd gan gadeirydd y pwyllgor ail bleidlais neu’r bleidlais ddyfarnu.
Penderfyniadau brys
Mewn achos lle bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau brys sy’n wirioneddol ddilys rhwng cyfarfodydd ar faterion sy’n disgyn o fewn cylch gwaith y pwyllgor, gall cadeirydd y llywodraethwyr (mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth, cadeirydd y pwyllgor a llywodraethwyr eraill o’r fath a ystyrir i fod yn briodol) gymryd camau priodol ar ran y pwyllgor. Eglurir y penderfyniad y daethpwyd iddo a’r rheswm dros y brys yn llawn yn ystod cyfarfod nesaf y pwyllgor a’r corff llywodraethol.
Gwariant
Bydd angen i bwyllgorau gymeradwyo gwariant o £20 mil cyn gwariant. Mew nachos lle bydd yn rhaid gwneud penderfyniad brys bydd angen i Gadeirydd y pwyllgorau neu Gadeirydd y Corff Llywodraethu gymeradwyo’r gwariant cyn gwariant.
Petty Cash
Uchafswm ac awdurdodwyd mewn un taliad allan o’r Arian Mân yw £30.
Trosglwyddiadau
Caniateir trosglwyddo arian sydd wedi'i gyllidebu o gategori dyraniad heb ei wario i gategori arall er mwyn defnyddio a rheoli adnoddau yn fwy hyblyg gyda chymeradwyaeth hysbys y Cadeirydd a'r Pennaeth, yn unol â'r terfynau isod. Caiff hyn ei reoli ar y cyd â'r Pennaeth a'r Rheolwr Busnes.
Terfynau Trosglwyddo
- £5,000 – I'w gymeradwyo gan y Pennaeth
- £5,000 – Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid neu Gadeirydd y Llywodraethwyr a'r Pennaeth'
PWYLLGOR LLES A CHEFNOGAETH
Pwyllgor Lles a Chefnogaeth
Aelodau
Anne-Louise Llewellyn-Morgan (Cadeirydd),
Rhys Angell Jones, Cathy WIlliams; Sally-ann Efstathiou, Carl Brown, Charlotte Lewis, Stephanie Johns, Nia Rowlands, David Morgan, Prif swyddogion.
Charlotte Dechamps Evans (Clerc)
Pwrpas
Galluogi ystyriaeth fanylach i gael ei roi i’r ffordd orau o gyflawni cyfrifoldebau’r Corff Llywodraethol o ran darparu cymorth ac arweiniad er lles y disgyblion.
Trafod a chytuno ar bolisïau a anelir at sicrhau y caiff ethos ysgol ei greu, sy’n bodloni amcanion yr ysgol yn ôl yr hyn a amlinellir yn natganiad cenhadaeth yr ysgol.
Cyfansoddiad
Rhwng tri a chwe aelod o’r corff llywodraethol, gan gynnwys o leiaf 3 llywodraethwr sy’n rieni.
Gall y pwyllgor hwn benderfynu, yn achlysurol, caniatáu pobl ychwanegol i fynychu cyfarfodydd lle y caiff eitemau busnes penodol eu hystyried. Ni fydd gan y bobl hyn, fodd bynnag, yr hawl i bleidleisio.
Cworwm
Bydd angen i 50% o’r cworwm fod yn bresennol o’r cyfarfod ar gyfer cael cyfarfod o’r pwyllgor.
Meini Cyfair y Pwyllgor
1. Cynorthwyo’r Pennaeth i ddarparu polisïau a gweithdrefnau effeithiol er mwyn cynorthwyo a rhoi arweiniad i ddisgyblion.
2. Adolygu a gwneud argymhellion i’r Corff Llywodraethol ar ei bolisi ar gyfer ymddygiad disgyblion, gan gynnwys trefniadau ar gyfer bwlio, systemau cosb a gwobrwyo, gwahardd disgyblion a gofal bugeiliol.
3. Darparu cynrychiolaeth o’r Corff Llywodraethol ar Gyngor yr Ysgol.
4. Gwneud argymhellion ar gyfer diweddaru cynllun datblygu’r ysgol yn rheolaidd, gan gynnwys pennu targedau perfformiad.
5. Cysylltu â phwyllgorau eraill a derbyn adroddiadau ganddynt, fel y bo’n briodol, a gwneud argymhellion i’r pwyllgorau hynny ar faterion bugeiliol a gaiff eu hystyried ganddynt.
6. Sefydlu cysylltiad agos ac effeithiol ag aelodau o UDA yr ysgol a’r staff addysgu a chymorth.
7. Ystyried unrhyw fater sy’n ymwneud â materion bugeiliol a drosglwyddir iddo gan y corff llywodraethol a rhoi cyngor arnynt.
Swyddogaethau a gedwir gan y corff llywodraethol
Mae’n rhaid i’r corff llywodraethol:-
1. Ystyried Datganiad Polisi’r AALl a’i addasiad os yw’n briodol.
2. Sicrhau y caiff y Cwricwlwm Cenedlaethol ei weithredu.
3. Penderfynu beth yw’r polisi ar godi tâl a chodi tâl am weithgareddau
4. Cytuno ar unrhyw egwyddorion cyffredinol yn ymwneud â disgyblu disgyblion.
Cyfrifoldebau’r Pennaeth
1. Trefnu a rheoli’r ysgol yn fewnol gan gynnwys ffurfio rheolau a gweithdrefnau ar gyfer safonau da o ran ymddygiad disgyblion, yn amodol ar y polisi a bennwyd gan y corff llywodraethol.
2. Penderfynu pa ddisgyblion a all gael eu hesgusodi yn ffurfiol o’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn llwyr neu’n rhannol.
Penodi Cadeirydd a Chlerc
Penderfyniad y pwyllgor fydd penodi cadeirydd y pwyllgor a’r clerc a dylid adolygu hyn yn ystod cyfarfod cyntaf y pwyllgor o’r flwyddyn ysgol.
Cofnodion
Dylid cadw cofnod ysgrifenedig o gyfarfod y pwyllgor gan gynnwys manylion o’r rhai sy’n bresennol. Dylid cyflwyno’r cofnodion i gyfarfod llawn nesaf y corff llywodraethol trwy glerc y corff llywodraethol.
Cyfarfodydd sy’n ymgynnull
Bydd y pwyllgor yn cyfarfod yn ôl yr angen er mwyn cyflawni ei gyfrifoldebau ac o leiaf unwaith bob tymor ysgol.
Bydd y pwyllgor yn ymgynnull ar gais y cadeirydd, y Pennaeth, neu unrhyw ddau o aelodau’r pwyllgor.
Pleidleisio
Mewn achos lle ceir yr un faint o bleidleisiau, bydd gan gadeirydd y pwyllgor ail bleidlais neu’r bleidlais ddyfarnu.
Penderfyniadau brys
Mewn achos lle bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau brys sy’n wirioneddol ddilys rhwng cyfarfodydd ar faterion sy’n disgyn o fewn cylch gwaith y pwyllgor, gall cadeirydd y llywodraethwyr (mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth, cadeirydd y pwyllgor a llywodraethwyr eraill o’r fath a ystyrir i fod yn briodol) gymryd camau priodol ar ran y pwyllgor. Eglurir y penderfyniad y daethpwyd iddo a’r rheswm dros y brys yn llawn yn ystod cyfarfod nesaf y pwyllgor a’r corff llywodraethol.